Mae Stephanie wedi’i hethol yn Gymrawd y Sefydliad Marchnata Siartredig (FCIM), wedi ennill statws Marchnatwr Siartredig CIM (CMKtr) ac mae’n dod â thros 30 mlynedd o brofiad a gwybodaeth am farchnata a rhyngwladoli i’w rôl fel Prif Swyddog Marchnata / Pennaeth Gwasanaethau Marchnata, Cyfathrebu ac Ymgysylltu ar gyfer y grŵp Gwyddor Data Poblogaeth byd-enwog yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe.
Mae Stephanie yn cyd-arwain y gwaith o ddatblygu’r rhaglen Hyfforddiant a Meithrin Gallu (TCB) ar gyfer YDG Cymru ac mae’n gyfrifol am dwf strategol y cyrsiau hyfforddiant sbectrwm llawn ar gyfer gwyddonwyr data dwys yn y DU ac yn rhyngwladol.
Mae ei meysydd arbenigedd yn cynnwys creu cysylltiadau, datblygu busnes a rheoli prosiectau.

