Data Gweinyddol | prosiect Casgliad Ymchwil Amaethyddol (AD|ARC)
Mae ADR UK yn gweithio mewn partneriaeth â grŵp o gyrff academaidd a’r llywodraeth i gysylltu data heb ei nodi o bob rhan o’r DU i greu’r llwyfan data cyntaf ar gyfer y DU gyfan sy’n canolbwyntio ar amaethyddiaeth.
Mae ffermio yn y DU yn sail i sicrwydd bwyd y genedl, yn cynhyrchu buddion economaidd ac yn siapio tirwedd gyfoethog ac amrywiol. Yn yr un modd, mae teuluoedd fferm, sy’n byw yn yr un lleoliad yn aml dros genedlaethau lawer, yn actorion lleol pwysig, gan gryfhau gwead cymdeithasol ardaloedd gwledig.
Er gwaethaf y cyfraniadau hyn at fywyd lleol a chenedlaethol, mae ffermio fel sector yn profi elw ansicr ac anwadal â chanlyniadau ar gyfer incwm y cartref a sefydlogrwydd ariannol. I gydnabod y rhain a nodweddion eraill o fywyd ffermio, mae amaethyddiaeth wedi derbyn cymorthdaliadau â’r nod o gynorthwyo a sefydlogi incwm ffermydd, annog camau amgylcheddol ac arallgyfeirio gweithgareddau busnes fferm.
Am bron i 40 mlynedd, cafodd polisi ei gyflwyno i raddau helaeth drwy Bolisi Amaethyddol Cyffredin yr UE (PAC), ond yn dilyn Brexit, bydd awdurdod yn dychwelyd i’r DU. Gan fod amaethyddiaeth yn fater datganoledig, mae hyn yn golygu cyfrifoldebau newydd a chynyddol i bedair gwlad y DU. Mae cyfeiriadau polisi newydd eisoes yn cael eu sefydlu â nodau sy’n gysylltiedig â gwella ffyniant busnes, gwella cynaliadwyedd amgylcheddol a chryfhau gwytnwch busnes a phersonol.
Y prosiect
Mae’r prosiect AD|ARC (Data Gweinyddol | Casgliad Ymchwil Amaethyddol yn anelu at integreiddio’r dimensiwn dynol â data ar weithgareddau ffermio, er mwyn deall yn well nodweddion demograffig, iechyd, addysg ac economaidd aelwydydd fferm sy’n gysylltiedig â gwahanol fathau a meintiau o fusnesau fferm. Bydd hyn yn rhoi’r mewnwelediad sydd ei angen ar y rhai sy’n gwneud penderfyniadau i wella polisïau’r dyfodol a gwella lles ffermwyr a’u teuluoedd.
AD|ARC yn dod ag ymchwilwyr cysylltiadau data uchel eu parch ac arbenigwyr mewn materion amaethyddol ynghyd â sefydliadau partner gan gynnwysAdran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA),Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig Gogledd Iwerddon (DAERA), Llywodraeth yr Alban, Llywodraeth Cymru acIechyd Cyhoeddus Cymru (PHW). Bydd y rhaglen yn dod â’r timau o fewn gwledydd unigol y buddsoddiad ADR DU at ei gilydd, dan arweiniad Dr Paul Caskie o’r Sefydliad Bwyd-Amaeth a Biowyddorau, Gogledd Iwerddon ac a gefnogir yn bennaf gan dîm yn YDG Cymru.
Bydd yr union gynllun prosiect yn cael ei bennu gan ymgysylltu agos â rhanddeiliaid ffermio ac ymchwilwyr gwyddonol ledled y DU.
Bydd ymchwil yn ymchwilio i berthnasoedd rhwng nodweddion teulu fferm a gweithgareddau ffermio a defnydd tir diweddar gyda golwg ar wella dyluniad polisïau’r dyfodol a gwella lles ffermwyr a theuluoedd fferm. Bydd y prosiect yn gwneud hyn mewn ffrydiau gwaith ar wahân ond cydgysylltiedig ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, â’r nod o fod yn gyflenwol fel bod dadansoddiad ar lefel y DU yn bosibl.
Manylion y prosiect
Prif Ymchwilydd: Dr Paul Caskie, Sefydliad Bwyd-Amaeth a Biowyddorau, Gogledd Iwerddon
Swm cyllid: £597,366
Hyd: Mehefin 2020 – Mawrth 2023
Arweinir y prosiect gan YDG Cymru â thîm gweinyddol craidd a gefnogir gan y Prif Ymchwilydd a Chydymchwilydd. Cyfrifoldeb Grŵp Llywio AD|ARC yw llywodraethu’r prosiect.
Bydd y prosiect AD|ARC yn elwa o’r strwythurau llywodraethu dilynol:
- Pwyllgor Llywio AD|ARC – yn cynnwys y tîm rheoli prosiect, rheolwyr data ac arweinyddion polisi o lywodraeth – â chyfrifoldeb dros gyfeiriad strategol a chyflawni amcanion y prosiect.
- Bwrdd Cynghori Gwyddonol AD|ARC – sy’n cynnwys ymchwilwyr blaenllaw mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau gwyddonol o bob rhan o’r DU – â chyfrifoldeb am fireinio’r amcanion ymchwil a, lle bo’n briodol, cymryd rhan mewn dadansoddi. Gweld Cylch Gorchwyl Bwrdd Cynghori Gwyddonol yr AD|ARC (Mai 2021).
- Grwpiau Cyfeirio Rhanddeiliaid AD|ARC – sy’n cynnwys cynrychiolwyr o gymunedau ffermio ledled y DU, a sefydliadau trydydd sector sy’n ymgysylltu â ffermwyr a theuluoedd fferm – a chyfrifoldeb am lywio cynigion ymchwil a rhoi sylwadau ar ganfyddiadau sy’n dod i’r amlwg. Dysgu mwy am y Grwpiau Cyfeirio Rhanddeiliaid AD|ARC.
Gellir cysylltu â thîm y prosiect yn adarc@adruk.org. Mae’r prosiect hwn yn cael ei ariannu trwy Gronfa Hyb Strategol ADR y DU, cronfa bwrpasol ar gyfer comisiynu ymchwil gan ddefnyddio data gweinyddol a gysylltwyd o’r newydd, mewn ymgynghoriad â’r Bwrdd Comisiynu Ymchwil (RCB) blaenorol (RCB).
Y data
Mae AD|ARC (Data Gweinyddol | Casgliad Ymchwil Amaethyddol) yn cysylltu cofnodion electronig dad-adnabyddedig sydd eisoes yn cael eu casglu gan adrannau ar draws llywodraethau’r DU. Y setiau data sydd wedi’u cynnwys yn AD|ARC yw’r:
- Arolwg Strwythur Ffermydd yr UE
- Taliadau Gwledig
- Cyfrifiad Poblogaeth
- Cofrestr Busnes Rhyngadrannol
Bydd cofnodion iechyd ac addysg arferol ychwanegol a ddelir gan wahanol weinyddiaethau’r DU yn cael eu cysylltu pan fyddant ar gael. Bydd yr holl ddata’n cael ei ddad-adnabod cyn trefnu eu bod ar gael i ymchwilwyr achrededig eu cyrchu ar gyfer ymchwil sydd er budd y cyhoedd. Mae hyn yn golygu bod pob dynodwr personol, megis enwau, oedrannau, a chyfeiriadau, ac ati, yn cael eu dileu cyn iddynt fod ar gael i ymchwilwyr. Cedwir y data o dan fesurau diogelu trwyadl er mwyn sicrhau mai dim ond ymchwilwyr achrededig sydd â mynediad cymeradwy i AD|ARC sy’n gallu cynnal ymchwil ar draws y setiau data (e.e. cyfrifiad, addysg) heb erioed allu adnabod person, aelwyd neu fferm. Bydd yr holl allbynnau yn destun adolygiad trydydd parti fel sicrwydd ychwanegol yn erbyn unrhyw fath o ddatgeliad.
Beth yw potensial y data hyn sydd newydd eu cysylltu?
Bydd ymchwil AD|ARC yn canolbwyntio ar ddisgrifio cyfansoddiad a nodweddion aelwydydd fferm a chynnal dadansoddiadau yn ymchwilio i iechyd a llesiant teuluoedd fferm, ffyniant a gwytnwch, ac ymgysylltiad ffermwyr â materion amaeth-amgylcheddol.
Bydd dadansoddi yn mynd i’r afael â materion o ddiddordeb i lunwyr polisi a rhanddeiliaid eraill ledled y DU.
Bydd allbynnau yn llywio penderfyniadau polisi yn y dyfodol, gan arwain o bosibl at ymatebion gwell i heriau megis gwella ffyniant, ymateb i bwysau amgylcheddol, cynhyrchu canlyniadau iechyd gwell a gwella incwm aelwydydd fferm.
Yn ogystal, bydd adnoddau data’r AD|ARC ar gael ar ôl i’r prosiect ddod i ben, gan greu’r potensial i ehangu mewn nifer o gyfeiriadau a galluogi cynhyrchu tystiolaeth newydd i gynorthwyo ffermio, ffermwyr ac aelwydydd fferm am flynyddoedd i ddod.
Sut mae’r gronfa ddata AD|ARC yn cael ei chadw’n ddiogel?
Ein prif flaenoriaeth yw cadw’r data dad-adnabyddedig a ddefnyddiwn ar gyfer ymchwil yn ddiogel. Yn allweddol i hyn mae’r rhwydwaith o amgylcheddau ymchwil dibynadwy sy’n storio data AD|ARC, sy’n gweithredu yn seiliedig ar fframwaith Pump Diogel y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG).
Yr amgylcheddau ymchwil dibynadwy sy’n storio AD|ARC ym Mhrydain Fawr yw:
- Lloegr– Gwasanaeth Ymchwil Diogel y SYG
- Cymru– y Banc Data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL).
- Yr Alban- yr Hafanau Diogel Cenedlaethol
Yng Ngogledd Iwerddon mae chwaer adnodd, CARS (Astudiaeth Ymchwil Amaethyddol y Cyfrifiad), yn cael ei storio yng:
- Ngogledd Iwerddon– amgylchedd ymchwil diogel NISRA
Mae amgylcheddau ymchwil dibynadwy’r DU yn systemau diogel nad ydynt yn caniatáu i ymchwilwyr gopïo neu dynnu data o’r lleoliad diogel neu gysylltiad diogel. Mae hyn yn golygu nad oes gan ymchwilwyr unrhyw ddata ar eu cyfrifiaduron eu hunain. Mae’r holl ganlyniadau ymchwil o AD|ARC (fel tablau neu graffiau) hefyd yn cael eu storio yn yr amgylchedd ymchwil dibynadwy. Cyn y gall ymchwilwyr rannu unrhyw ganlyniadau (er enghraifft, mewn adroddiad), cânt eu gwirio gan dîm annibynnol yn SYG i’w diogelu rhag unrhyw ailadnabod posibl.
Mae pob ymchwilydd sy’n gallu cael mynediad AD|ARC wedi cael eu hachredu a’u hyfforddi ar sut i drin data yn ddiogel ac yn foesegol. Mae’n rhaid i ymchwilwyr sy’n dymuno dadansoddi’r data AD|ARC brofi i banel llywodraethu bod gan eu hymchwil y potensial i fod o fudd i’r cyhoedd.
A all ymchwilwyr ddod o hyd i fy nghofnodion i – neu fy mhlentyn – o fewn cronfa ddata’r AD|ARC?
Na – Mae cronfa dddata’r AD|ARC wedi’i “dad-adnabod” sy’n golygu nad yw’n cynnwys unrhyw wybodaeth sy’n dynodi unigolyn. Er enghraifft, nid yw’n cynnwys enwau, cyfeiriadau, dyddiadau geni na rhifau GIG.
Beth os nad wyf am i’m data (neu ddata’r plentyn) gael eu cynnwys yn AD|ARC?
Mae tîm yr AD|ARC yn credu’n gryf ym manteision ymchwil sy’n defnyddio data heb eu hadnabod, ac mae ganddynt bolisïau cadarn a diogelwch ar waith i atal camddefnydd o ddata dad-adnabyddedig unigolion. Serch hynny, rydym yn deall efallai na fydd rhai unigolion am i wybodaeth amdanynt gael ei defnyddio ar gyfer ymchwil. Os yw rhywun yn pryderu am gynnwys eu cofnodion dad-adnabyddedig yn AD|ARC, mae croeso iddynt gysylltu â ni am unrhyw wybodaeth ychwanegol sydd ei hangen arnynt. Gweler yr adran- ‘Sut mae cysylltu â’r tîm AD|ARC?’
Gan fod y setiau data AD|ARC a gedwir yn yr amgylcheddau ymchwil dibynadwy ond yn cynnwys data sydd wedi’u dadanabod, nid yw’r tîm AD|ARC yn gallu eich adnabod yn uniongyrchol felly ni allant dynnu eich cofnodion o’r casgliad. Fodd bynnag, os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y defnydd eilaidd o ddata sydd wedi’u dadadnabod a pholisïau amgylcheddau ymchwil dibynadwy y DU lle mae AD|ARC yn cael ei storio, sy’n cynnwys gwybodaeth am a allwch chi a sut allwch chi optio allan o ddata dienw sy’n ymwneud â chi’n cael eu defnyddio at ddibenion eilaidd, dewiswch un o’r cwymplenni canynol.
Mae data a rennir ar gyfer cronfa ddata’r AD|ARC yn cael ei wneud trwy amrywiaeth o byrth cyfreithiol sy’n galluogi ymchwilwyr achrededig i gael mynediad at ddata at ddibenion ymchwil ac ystadegol. Un o’r pyrth cyfreithiol a ddefnyddir amlaf yw Deddf yr Economi Ddigidol 2017, Adran 64 – ‘Datgelu gwybodaeth at ddibenion ymchwil’. Mae’n nodi y gall data dadadnabyddedig a gedwir gan awdurdod cyhoeddus mewn cysylltiad â swyddogaethau’r awdurdod gael eu datgelu i unigolyn arall at ddibenion ymchwil. Mae hyn, fodd bynnag, yn amodol ar fodloni meini prawf penodol, gan gynnwys y sicrwydd nad yw hunaniaeth unigolyn wedi’i nodi mewn unrhyw wybodaeth a ddatgelir ar gyfer ymchwil.
Mae data AD|ARC yng Nghymru yn cael eu storio ym Manc Data SAIL. Gellir dod o hyd i wybodaeth am SAIL a gwybodaeth gyswllt trwy ddilyn y dolenni isod.
Banc Data SAIL – Y Banc Data Cyswllt Gwybodaeth Ddienw Diogel
Mae data AD|ARC yn Lloegr yn cael eu storio yng Ngwasanaeth Ymchwil Diogel SYG. Gellir dod o hyd i wybodaeth am Wasanaeth Ymchwil Diogel SYG a gwybodaeth gyswllt trwy ddilyn y dolenni isod.
Gwasanaeth Ymchwil Diogel – Y Swyddfa Ystadegau Gwladol
Polisi Preifatrwydd – Y Swyddfa Ystadegau Gwladol
Mae gennych yr hawl i ddweud wrth NHS Digital os nad ydych am i’r wybodaeth a roddwch i’r GIG gael ei defnyddio y tu hwnt i ddiben darparu gofal iechyd.
Gelwir hyn yn ‘wrthwynebiad claf.’ Ewch i wefan NHS Digital am ragor o fanylion.
Ni fydd eich dewis yn effeithio ar y gofal iechyd a gewch.
Os nad ydych am i’ch data iechyd (neu ddata eich plentyn) gael eu cynnwys yn AD|ARC bydd angen i chi ddweud wrth NHS Digital cyn 01/11/22. Mae hyn oherwydd unwaith y bydd y data iechyd wedi’u dadadnabod, ni fydd tîm y prosiect yn gallu eich adnabod ac ni fydd yn gallu tynnu eich cofnodion o’r set ddata AD|ARC.
Mae data AD|ARC yn yr Alban yn cael eu storio yn y National Safe Havens. Gellir dod o hyd i wybodaeth am y National Safe Havens a gwybodaeth gyswllt trwy ddilyn y dolenni isod.
Mae data CARS yng Ngogledd Iwerddon yn cael eu storio yn y National Safe Havens. Gellir dod o hyd i wybodaeth am amgylchedd ymchwil diogel NISRA a gwybodaeth gyswllt trwy ddilyn y dolenni isod.
Sut ydw i’n cysylltu â’r tîm AD|ARC?
Os oes gennych gwestiynau neu bryderon am AD|ARC, cysylltwch â thîm y prosiect:
AD|ARC Tîm y Prosiect
Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF103NQ
E-bost: AD|ARC@gov.wales
Beth os oes gennyf gŵyn?
Os oes gennych gŵyn am y defnydd o ddata dadadnabyddedig gan AD|ARC mae gennych hawl i gwyno’n uniongyrchol i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, yr awdurdod rheoleiddio annibynnol a sefydlwyd i gynnal hawliau gwybodaeth.