Trosolwg
Cyfiawnder cymdeithasol yw’r mudiad cymdeithasol a’r farn y dylai pawb gael eu trin yn deg, yn gyfartal a chael yr un hawliau a chyfleoedd dynol beth bynnag y bo’u cefndiroedd cymdeithasol, ethnig a diwylliannol. Ein nod yw cynhyrchu ymchwil sy’n cael effaith sy’n newid polisi drwy adrodd a chodi ymwybyddiaeth o anghydraddoldebau, ac eiriol dros fynediad teg i ofal iechyd, addysg, a chyfleoedd ar draws yr oes i gefnogi Cymru flaengar.
Bydd y tîm ymchwil yn blaenoriaethu meysydd ymchwil gyda llunwyr polisi i sicrhau bod allbynnau ymchwil yn berthnasol i bolisi a bod cynhwysiant a chydraddoldeb yn cael eu hymgorffori fel rhan o allbynnau YDG Cymru.
Bydd ein hagenda ymchwil yn ymdrin ag anghydraddoldebau o ran canlyniadau iechyd, triniaeth, hygyrchedd gwasanaethau, cyfleoedd, ac addysg ar gyfer poblogaeth Cymru, a bydd yn defnyddio data demograffeg, iechyd, amgylcheddol, gweinyddo a chymdeithasol dienw a gesglir yn rheolaidd, ar lefel unigol, ar raddfa’r boblogaeth a gedwir yn y Banc Data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL). Byddwn yn diffinio nodweddion unigolyn ac yn categoreiddio grwpiau cymdeithasol i sicrhau bod pobl ymylol a bregus yn cael eu cynrychioli yn yr ymchwil i leihau anghydraddoldebau ac annhegwch.
Meysydd Ymchwil Cyfiawnder Cymdeithasol
- Ymchwil i ddisgrifiadau a nodweddion cyfredol poblogaeth Cymru
- Ymchwil i’r rhyngberthynas a’r anghydraddoldebau rhwng grwpiau economaidd-gymdeithasol, ethnig ac ymylol a chanlyniadau iechyd
- Ymchwil i heriau cymdeithasol mawr yng Nghymru a’r effaith ar unigolion bregus ac ymylol
- Defnyddio data i werthuso, llywio a mireinio ymyriadau a gofal i fynd i’r afael ag annhegwch iechyd
- Defnyddio data i lywio a mireinio hygyrchedd a thegwch i wasanaethau a chyfleoedd
- Gwyliadwriaeth o drais yn erbyn grwpiau ethnig lleiafrifol, LHDQTIA+, menywod ac unigolion agored i niwed
Bydd yr ymchwil o dan y thema hon yn cefnogi meysydd blaenoriaeth a nodwyd yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru 2021-26, Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliol Cymru, Cynllun Hyrwyddo Cydraddoldeb Rhywiol, Cynllun Gweithredu LHDTQ+ Cymru, Locked Out: rhyddhau bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru y tu hwnt i Covid-19, y Cytundeb Cydweithredu a menter Adroddiad Statws Tegwch Iechyd Cymru.
Blaenoriaethau
Bydd y thema ymchwil trawsbynciol hon yn canolbwyntio ar ymdrin ag anghydraddoldebau mewn canlyniadau iechyd, triniaeth, hygyrchedd gwasanaethau, cyfleoedd, ac addysg i boblogaeth Cymru. Bydd allbynnau ymchwil sy’n berthnasol i bolisi yn darparu tystiolaeth i helpu i nodi, deall yn well a dileu anghydraddoldeb ym mhob ffurf.
Cyfrannodd YDG Cymru at strategaeth a blaenoriaethau newydd yr Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd (2022-2027), sy’n cydnabod gwerth cysylltu data i fynd i’r afael â heriau ynghylch gwelededd poblogaethau lleiafrifol. Disgwyliwn barhau i gydweithio’n agos i ddeall a nodweddu poblogaeth Cymru yn well o ran cyfiawnder cymdeithasol.
Byddwn yn edrych ar grwpiau difreintiedig a chanlyniadau iechyd, gan nodi’r rhyngberthynas a’r anghydraddoldebau rhwng grwpiau economaidd-gymdeithasol, ethnig ac ymylol a chanlyniadau iechyd. Byddwn yn defnyddio data i werthuso, llywio a mireinio ymyriadau a gofal i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd. Byddwn yn edrych ar anghydraddoldebau o ran triniaeth rhwng grwpiau o bobl a thegwch mynediad at driniaethau. Byddwn yn defnyddio data i lywio a mireinio hygyrchedd a thegwch i wasanaethau a chyfleoedd, a byddwn yn edrych ar anghydraddoldebau mewn addysg ac anghydraddoldebau mewn gwaith a dilyniant.
Byddwn yn edrych ar effaith heriau cymdeithasol mawr yng Nghymru a’r effaith ar unigolion agored i niwed ac ymylol. Byddwn yn archwilio effaith yr argyfwng costau byw ar deuluoedd ac unigolion sy’n ei chael yn anodd, effeithiau tlodi tanwydd yn ôl gwahanol is-grwpiau o’r boblogaeth, a gwerthuso’r argyfwng costau byw yng Nghymru gan ddefnyddio data tlodi tanwydd. Rydym hefyd yn anelu at werthuso ymyriadau cenedlaethol a chynlluniau sy’n hyrwyddo tegwch a llesiant megis y Cynllun Incwm Sylfaenol ar gyfer y rhai sy’n gadael gofal.
Ar ben hynny, byddwn yn archwilio trais a adroddir yn erbyn grwpiau lleiafrifoedd ethnig, pobl anabl, LGBQTIA+, menywod a phobl anneuaidd.
Prosiectau
Anghydraddoldebau poblogaeth yng Nghymru
Gan ddefnyddio data iechyd, demograffig a gweinyddol presennol a newydd, nod y prosiect hwn yw creu sylfeini y gellir seilio ymchwil yn y dyfodol ar nodweddion poblogaeth Cymru arnynt. Bydd y gwaith hwn yn helpu ymchwilwyr i broffilio a chategoreiddio’r boblogaeth ar gyfer ymchwil i anghydraddoldebau yn y dyfodol.
Amddifadedd a chlefydau cronig
Mae’r prosiect hwn yn ceisio cymharu llwybrau clefydau cronig yn ôl amddifadedd ar lefel ardal ar gyfer poblogaeth Cymru. Bydd ymchwilwyr yn ceisio darganfod a yw unigolion sy’n byw mewn ardaloedd mwy difreintiedig yn cronni afiechydon yn gynt nag unigolion sy’n byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig.
Achosion o ymosodiadau’n cael eu cyflwyno i wasanaethau iechyd ymhlith grwpiau lleiafrifol yng Nghymru
Bydd y prosiect hwn yn defnyddio data iechyd, demograffig ac arolwg i ymchwilio i weld a yw pobl o grwpiau lleiafrifoedd ethnig, pobl anabl, LGBTQIA+, menywod a grwpiau anneuaidd yn profi cyfraddau uwch o ymosodiadau na phobl eraill yn y boblogaeth.
Defnyddio gwasanaethau iechyd yng Nghymru
Nod y prosiect hwn yw creu dangosydd defnydd gwasanaeth iechyd dymunol i nodweddu dosbarthiad y boblogaeth nad ydynt yn defnyddio’r gwasanaeth iechyd fel mesur o wytnwch iechyd. Bydd y prosiect yn edrych ar ba gyfran o boblogaeth Cymru sy’n bodloni meini prawf y dangosydd a sut mae hyn yn amrywio yn ôl amddifadedd a grwpiau â nodweddion gwarchodedig.
Anghydraddoldebau o ran dilyniant gyrfa
Bydd y prosiect hwn yn edrych ar weithwyr yng Nghymru gyda’r nod o nodi a oes modd mesur tegwch o fewn llwybrau dilyniant yn enwedig yn ôl grwpiau ethnig.
Cyhoeddiadau
Adroddiad: Prosiect cysylltu data Cefnogi Pobl: diweddariad
Mae’r prosiect hwn yn dilyn ac yn cael ei lywio gan astudiaeth ddichonoldeb cysylltu data Cefnogi Pobl ac adroddiad y prosiect cysylltu data Cefnogi Pobl ar ganfyddiadau sy’n dod i’r amlwg, gan ddefnyddio hen ddata Cefnogi Pobl gan bum awdurdod lleol yng Nghymru (rhwng 2003 a 2020). Cafodd y rhaglen Cefnogi Pobl ei disodli gan y Grant Cymorth Tai yn 2019.
Mae’r adroddiad hwn yn dadansoddi demograffeg Cefnogi Pobl i ddeall pwy gafodd gymorth gan y rhaglen. Yn ogystal â hynny, mae’n amlinellu canfyddiadau o ddadansoddiad a oedd wedi cysylltu’r data Cefnogi Pobl â data gofal iechyd yn y banc data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw i ddeall defnydd cleientiaid y Rhaglen Cefnogi Pobl o ofal iechyd cyn ac ar ôl cael cymorth.