Hyfforddiant a Meithrin Gallu
Mae rhaglen Hyfforddi a Meithrin Gallu YDG Cymru ar fin cyflawni amcan strategol ADR UK o hybu nifer yr ymchwilwyr hyfforddedig sydd â’r sgiliau i ddadansoddi setiau data gweinyddol cysylltiedig cymhleth yn y DU. Bydd YDG Cymru yn gweithio ar y cyd ag eraill ledled y DU ac yn rhyngwladol i:
- Ddarparu hyfforddiant sy’n benodol i setiau data cysylltiedig ag ADR UK;
- Cydlynu’r buddsoddiad ehangach i nodi ac ymgysylltu â darpar ddysgwyr, pennu eu hanghenion hyfforddi a gweithio gyda nhw i ddarparu’r hyfforddiant mwyaf priodol ac effeithiol.
Bydd rhaglen Hyfforddi a Meithrin Gallu YDG Cymru yn cael ei chyflwyno drwy Dysgu Agored ac Adnoddau Datacise mewn partneriaeth â chydweithwyr Gwyddor Data Poblogaeth ym Mhrifysgol Abertawe a sefydliadau eraill yn y DU ac yn rhyngwladol.
Mae Dysgu Agored ac Adnoddau Datacise yn anelu at ddarparu hyfforddiant o safon fyd-eang, hyblyg ac arloesol ar gyfer amrediad o ddisgyblaethau gwyddor data. I unrhyw un sy’n defnyddio neu sydd â diddordeb mewn data gweinyddol ‘mawr’, bydd Dysgu Agored ac Adnoddau Datacise yn cefnogi eu sgiliau a’u datblygiad dysgu i wella ymdrechion ymchwil y dyfodol ar draws y gwyddorau cymdeithasol, iechyd a gofal cymdeithasol, gofal iechyd ac ymchwil clinigol.’
Drwy ychwanegu at gapasiti, sgiliau ac ymgysylltiad y gweithlu â gwyddoniaeth data-ddwys, gallwn ddechrau datgloi potensial enfawr data i:
- Greu newidiadau cymdeithasol trwy ddatrys rhai o faterion cymdeithasol mwyaf hanfodol heddiw o iechyd byd-eang i newid hinsawdd trwy’r sgiliau a’r defnydd o gysylltu data sy’n ofynnol gan arbenigedd uwch.
- Sbarduno datblygiadau newydd sy’n sail i esblygiad technolegau aflonyddgar, i driniaethau o fewn y maes gofal iechyd. Mae hyn yn cynnwys y broses darganfod cyffuriau (yn arbennig o berthnasol yn wyneb y pandemig Covid-19 presennol) trwy ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial (AI) ac efelychiad cyfrifiadurol â data treialon clinigol.
- Trawsnewid gofal iechyd â diagnosis cyflym a chywir, gan ddefnyddio delweddu meddygol a modelau newydd sy’n cael eu gyrru gan ddata, a strategaethau atal clefydau sy’n dibynnu ar synthesis data a dysgu dwfn.
Tîm craidd:
- Yr Athro David Ford, Cyfarwyddwr YDG Cymru
- Peter Arnold, Cyd-gyfarwyddwr ar gyfer Sgiliau, Addysg ac Arloesedd
- Stephanie Lee, Cyd-gyfarwyddwr ar gyfer Twf
- Jon Smart, Cyd-gyfarwyddwr ar gyfer Adnoddau ac Isadeiledd
- Chris Roberts, Uwch Swyddog Effaith ac Ymgysylltu
Cyrsiau Hyfforddi:
Dadansoddiad Uwch o Ddata Iechyd Cysylltiedig, 27 – 31 Mawrth 2023 (Dydd Llun i Ddydd Gwener)