Trosolwg
Mae rhaglen Iechyd a Llesiant YDG Cymru yn dod â data iechyd a gweinyddol ynghyd â data geo-ofodol newydd i roi mewnwelediad i iechyd a llesiant yng Nghymru.
Dan arweiniad yr Athro Ronan Lyons OBE a’r Athrawon Cyswllt Richard Fry a Lucy Griffiths, bydd y rhaglen waith hon yn rhoi cipolwg ar y rôl y mae ffactorau cymdeithasol-amgylcheddol yn ei chwarae yn yr anghydraddoldebau sy’n bodoli ledled Cymru a sut mae’r rhain yn effeithio ar iechyd a llesiant poblogaeth Cymru.
Nod y rhaglen ymchwil yw darparu gwerthusiad polisi cadarn o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Deddf Teithio Llesol Cymru. I gefnogi’r Rhaglen Lywodraethu, bydd y tîm ymchwil yn cynhyrchu tystiolaeth newydd ar gyfer y meysydd polisi hyn drwy gydweithio â rhanddeiliaid allweddol Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a HDR UK.
Hyd yma mae’r agenda ymchwil wedi canolbwyntio ar ddarparu dadansoddiad i arwain yr ymateb i’r pandemig yng Nghymru a’r DU. Trwy aelodaeth weithredol o grwpiau cynghori’r llywodraeth, mae’r tîm wedi darparu mewnwelediadau o ddadansoddiadau data cysylltiedig i feysydd polisi amrywiol, gan gynnwys gofal cymdeithasol, addysg, newidiadau yn y defnydd o wasanaethau, risg i weithwyr gofal iechyd a modelu geo-ofodol ehangach o heintiau Covid-19 ar lefelau’r DU a Chymru. Ochr yn ochr ag agenda adferiad Covid-19 bydd y tîm ymchwil yn gwerthuso effeithiau amgylcheddau byw egnïol wrth hyrwyddo Teithio Llesol ac yn cefnogi mentrau eraill, gan gynnwys AD|ARC .
Wrth edrych ymlaen, bydd ymchwil yn canolbwyntio ar dri maes craidd:
- nodweddu ‘Covid-19 Hir’ ym mhoblogaeth Cymru a deall yr anghydraddoldebau cymdeithasol-amgylcheddol sy’n ei ysgogi
- datblygu modelau o fod yn agored 24 awr yn y cartref, i’r gwaith ac oddi yno, ac yn y gwaith, ar gyfer amrediad o ffactorau amgylcheddol ar y cyd ag ADR Scotland
- gwerthusiad o effeithiau’r amgylchedd adeiledig a naturiol ar iechyd a llesiant poblogaeth Cymru.
Blaenoriaethau
Mae deddfu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn amlinellu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i iechyd a llesiant unigolion ledled Cymru. O ystyried natur eang y pwnc hwn, rydym yn disgwyl i waith dorri ar draws sawl maes ymchwil thematig. Yn benodol, rydym wedi cynllunio ein hymagwedd i weithio’n agos gyda meysydd ymchwil thematig newid yn yr hinsawdd a chyfiawnder cymdeithasol.
Rydym yn cynllunio nifer o brosiectau methodolegol i’w defnyddio mewn prosiectau ymchwil annibynnol, ond hefyd i’w gwneud ar gael ar gyfer defnydd ehangach.Mae prosiectau o’r fath yn cynnwys creu set ddata amgylchedd y cartref; dichonoldeb cysylltu â’r gweithle; a datblygu mesur llesiant gan ddefnyddio data arferol.
Mae’r set ddata amgylchedd y cartref yn ymwneud â chreu, cyfuno a dadansoddi ffactorau aelwyd lluosog i greu ‘mynegai straen yn yr aelwyd’.Byddai nodweddion ffisegol ac amgylcheddol megis y math o dai, a chysylltiadau â llygredd aer (modelau cyfrifiadurol pwrpasol o’r amgylcheddau adeiledig a naturiol sy’n gysylltiedig ar lefel aelwydydd), yn cael eu cyfuno â lluniadau cymdeithasol megis cyfansoddiad y teulu, gorlenwi a cydafiachedd aelwydydd.Byddai ymgorffori profiadau pob deiliad tŷ yn ychwanegu dyfnder ychwanegol at ein hymchwil, gan alluogi ymchwil i gyfrif am straen ar lefel aelwyd o fewn cartref teuluol, megis cyfrifoldebau gofalu.Defnyddir hyn i ddeall cysylltiadau â iechyd a lles, yn enwedig o fewn grwpiau agored i niwed.
Fel prosiect galluogi ar gyfer y maes ymchwil thematig newid yn yr hinsawdd, byddwn yn ceisio datblygu methodolegau dichonoldeb cysylltu gweithleoedd. Bydd hyn yn hwyluso cysylltu a dadansoddi amlygiadau amgylcheddol gweithwyr unigol gartref ac yn y gwaith, metrigau teithio llesol posib (e.e. pellteroedd cymudo), ynghyd â chofnodion iechyd.
Ar y cyd â’n gwaith cyfiawnder cymdeithasol byddwn yn disgrifio iechyd a lles grwpiau agored i niwed yng Nghymru o ran anawsterau cymharol o gymharu â’r boblogaeth gyffredinol, neu grwpiau o bobl ar gamau bywyd tebyg. Byddwn yn darparu mewnwelediadau i ddangos gwendidau ac anghenion rhai grwpiau o’u cymharu â’r boblogaeth yn gyffredinol, gan amlygu a hyrwyddo’r angen am gymorth gan asiantaethau amrywiol.
Byddwn yn ymchwilio i ddichonoldeb adeiladu ar ddysgu presennol i greu mesur llesiant unigol gyda’r nod o ddeall llesiant lefel poblogaeth Cymru gan ddefnyddio data a gesglir yn rheolaidd.
Prosiectau
Cysylltiad data gweithle
Mae’r prosiect hwn yn anelu at greu dull i gysylltu unigolyn â’i weithle fel astudiaeth beilot i brofi cysyniad y dull. Mae’r tîm ymchwil yn anelu at gynnwys, er enghraifft, unigolion o’r gweithlu athrawon yng Nghymru. Bydd data amgylcheddol megis lefelau llygredd gartref ac yn y gwaith yn cael eu cynnwys, yn ogystal â’r potensial ar gyfer teithio gweithredol trwy bellterau cymudo.
Iechyd a llesiant cyffredinol ar gyfer grwpiau ledled Cymru
Bydd y prosiect hwn yn ymchwilio i iechyd a llesiant grwpiau i ddangos anawsterau a chodi ymwybyddiaeth i grwpiau penodol.
Mesurau llesiant unigol gan ddefnyddio data arferol
Bydd y prosiect hwn yn edrych ar sut y gallwn harnesu data a gesglir fel mater o drefn i fesur llesiant unigol. Bydd y prosiect yn cynnwys data perthynol i’r unigolyn, amgylchedd ac ardal y cartref i geisio deall a mesur llesiant.
Llesiant amgylchedd y cartref
Bydd y prosiect hwn yn edrych ar sut y gallwn harnesu data a gesglir fel mater o drefn i ddeall effaith amgylchedd y cartref ar iechyd a llesiant unigolyn, ac os bydd yr ymagwedd hon yn cael ei defnyddio i wella ymchwil lefel poblogaeth ehangach.
Cyhoeddiadau
Cip ar Ddata: Codio clinigol a dal COVID Hir: astudiaeth garfan yng Nghymru yn defnyddio data iechyd a demograffig cysylltiedig
Mae’r Cipolwg Data hwn yn ymwchwilio i godio clinigol COVID Hir a gofnodwyd mewn gofal sylfaenol ac eilaidd ar gyfer poblogaeth Cymru i gynorthwyo dealltwriaeth o ansawdd y codio, amrywiad o ran defnydd mewn systemau meddalwedd gofal sylfaenol, cyflawnrwydd a defnyddioldeb data. At hynny, mae’r astudiaeth hon yn darparu nodweddiad cynhwysfawr o gleifion sydd wedi cael diagnosis clinigol o COVID Hir, gyda’r nod o feithrin dealltwriaeth ddyfnach o’r cyflwr cymharol newydd hwn.
Adroddiad: Prosiect cysylltu data Cefnogi Pobl: diweddariad
Mae’r prosiect hwn yn dilyn ac yn cael ei lywio gan astudiaeth ddichonoldeb cysylltu data Cefnogi Pobl ac adroddiad y prosiect cysylltu data Cefnogi Pobl ar ganfyddiadau sy’n dod i’r amlwg, gan ddefnyddio hen ddata Cefnogi Pobl gan bum awdurdod lleol yng Nghymru (rhwng 2003 a 2020). Cafodd y rhaglen Cefnogi Pobl ei disodli gan y Grant Cymorth Tai yn 2019.
Mae’r adroddiad hwn yn dadansoddi demograffeg Cefnogi Pobl i ddeall pwy gafodd gymorth gan y rhaglen. Yn ogystal â hynny, mae’n amlinellu canfyddiadau o ddadansoddiad a oedd wedi cysylltu’r data Cefnogi Pobl â data gofal iechyd yn y banc data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw i ddeall defnydd cleientiaid y Rhaglen Cefnogi Pobl o ofal iechyd cyn ac ar ôl cael cymorth.
Cip ar Ddata: Archwilio’r berthynas gymhleth rhwng deddfwriaeth, polisïau ac ymchwil: prosiect Amgylchedd Adeiledig ac Iechyd Plant yng Nghymru ac Awstralia (BEACHES)
Mae’r Cipolwg Data hwn yn canolbwyntio ar y gwaith sy’n cael ei wneud gan dîm Amgylchedd Adeiledig ac Iechyd Plant ac AuStralia (BEACHES) ym Mhrifysgol Abertawe. Menter ar y cyd rhwng Prifysgol Abertawe, Sefydliad Telethon Kids a Phrifysgol Gorllewin Awstralia yw BEACHES, gyda chydweithwyr o Brifysgol Curtin, Prifysgol Monash, Prifysgol Technoleg Queensland a Phrifysgol De Denmarc. Mae’r Cipolwg Data hwn yn rhoi crynodeb o ddeddfwriaeth a meysydd polisi allweddol Cymru o ran amgylchedd adeiledig ac iechyd plant.