Trosolwg
Gall iechyd meddwl gwael ddigwydd ar unrhyw adeg yn ystod oes. Ond gydag effeithiau’r pandemig yn chwarae’n drwm ar iechyd meddwl pobl o bob oed, ynghyd â bron i ddyblu’r atgyfeiriadau i wasanaethau iechyd meddwl plant yng Nghymru, ni fu’r angen am ddadansoddiad ar sail tystiolaeth erioed yn fwy amserol.
Bydd rhaglen ymchwil Iechyd Meddwl YDG Cymru dan arweiniad yr Athro Ann John yn canolbwyntio ar faterion gorbryder, iselder a hunanladdiad ac atal hunan-niwed yn unol ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn iechyd meddwl drwy ailgynllunio gwasanaethau i “wella atal, mynd i’r afael â stigma. a hyrwyddo agwedd ddi-ddrws anghywir at gymorth iechyd meddwl”.
Er y bu cynnydd eisoes mewn tueddiadau cyn y pandemig, nod y tîm ymchwil yw deall yn well effeithiau’r pandemig ei hun ar iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Caiff y dadansoddiad hwn ei lywio gan ymchwil flaenorol y tîm ar absenoldebau a gwaharddiadau o’r ysgol a’u cysylltiadau â diagnosis iechyd meddwl. Yn y pen draw, y gobaith yw y gall darparu sylfaen dystiolaeth arwain at bolisïau ac arferion sy’n canolbwyntio ar adnabod a thrin iechyd meddwl gwael cyn gynted â phosibl cyn cyrraedd pwynt argyfwng.
Mae gan y rhaglen ymchwil Iechyd Meddwl gysylltiadau cryf â nifer o sefydliadau a grwpiau llywio iechyd meddwl blaenllaw. Ann o YDG Cymru yw Prif Ymchwilydd a Chyd-gyfarwyddwr DATAMIND, Canolfan Ymchwil Data Iechyd ar gyfer Iechyd Meddwl. Mae hi hefyd yn arwain y Llwyfan Data Iechyd Meddwl Glasoed, Cronfa Ddata Gwybodaeth am Hunanladdiad-Cymru, ffrydiau gwaith gwybodeg Canolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc a’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl, tra’n gysylltiedig â nifer o sefydliadau iechyd meddwl eraill.
Blaenoriaethau
Mae’r Rhaglen Lywodraethu yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau iechyd meddwl effeithiol a chynaliadwy o ansawdd uchel. Bydd y thema ymchwil hon yn ceisio darparu tystiolaeth i lywio, diwygio a blaenoriaethu buddsoddiadau.
Bydd ein gwaith ym maes iechyd meddwl yn cwmpasu pum maes: cyfraddau absenoldeb o’r ysgol a gwahardd unigolion â diagnosis iechyd meddwl; effeithiolrwydd gwasanaethau trawsnewid iechyd meddwl amrywiol (os bydd data’n caniatáu); edrych ar y rhai sy’n cael eu haddysg y tu allan i’r ysgol; iechyd meddwl grwpiau economaidd-gymdeithasol, lleiafrifoedd ethnig a grwpiau nas gwasanaethir yn ddigonol; a charcharorion a hunan-niweidio.
Byddwn yn ymchwilio i effaith Covid-19 ar gyfraddau absenoldeb o’r ysgol a gwaharddiadau plant a’r glasoed â diagnosis iechyd meddwl gofal sylfaenol ac eilaidd. Byddwn yn adeiladu ar waith blaenorol yn edrych ar iechyd meddwl disgyblion sy’n absennol neu wedi’u gwahardd o’r ysgol, gan edrych nawr ar y rhai sy’n cael eu haddysg y tu allan i’r ysgol (EOTAS).
Byddwn yn cysylltu data carchardai ledled Cymru i nodi hanes blaenorol a llwybrau carcharorion sy’n hunan-niweidio er mwyn asesu angen a ffactorau risg.
Byddwn yn archwilio sut y gall ymchwil cysylltu data helpu i werthuso, llywio a mireinio gwasanaethau trawsnewid iechyd meddwl. Byddwn hefyd yn nodweddu iechyd meddwl grwpiau economaidd-gymdeithasol, lleiafrifoedd ethnig a grwpiau nas gwasanaethir yn ddigonol, yn asesu eu tegwch o ran mynediad at wasanaethau ar gyfer iechyd meddwl a chanlyniadau i’r rheini lle mae problemau iechyd meddwl yn croestorri.
Prosiectau
Effaith canllawiau rhoi presgripsiwn am gyffuriau gwrth-iselder
Nod y prosiect hwn yw archwilio tueddiadau diweddar o ran iselder a rhoi presgripsiwn am gyffuriau gwrth-iselder dros amser.
Iechyd meddwl ac ymddygiadau hunan-niweidio ymhlith myfyrwyr prifysgol yng Nghymru
Bydd y prosiect hwn yn edrych ar lwybrau iechyd meddwl myfyrwyr yng Nghymru. Bydd yn edrych ar y cyfnod cyn ac yn ystod y brifysgol, ac o’i gymharu â’r rhai nad ydynt yn fyfyrwyr yng Nghymru.
Iechyd meddwl a hunan-niweidio ymhlith carcharorion yng Nghymru
Nod y prosiect hwn yw deall y ffactorau risg ar gyfer ymddygiad hunan-niweidio carcharorion gwrywaidd yng Nghymru. Ei nod yw ymchwilio i iechyd meddwl ac ymddygiad cyn carcharu ac mewn grŵp rheoli o ddynion o oedran paru o’r boblogaeth gyffredinol.
Bydd hefyd yn ymchwilio i’r berthynas rhwng iechyd meddwl ac ymddygiad – a difrifoldeb digwyddiadau hunan-niweidio a gofnodwyd yn y carchar.
Risg o hunanladdiad yn dilyn absenoldebau ysgol a gwaharddiadau
Mae’r prosiect hwn yn ceisio deall y cysylltiad rhwng absenoldebau ysgol a gwaharddiadau a hunanladdiad ymhlith pobl ifanc yng Nghymru.
Iechyd meddwl ac ymddygiadau hunan-niweidio ymhlith disgyblion a Addysgwyd Heblaw yn yr Ysgol (EOTAS) yng Nghymru
Nod y prosiect hwn yw deall iechyd meddwl disgyblion EOTAS. Bydd yn ymchwilio i ddiagnosau a symptomau iechyd meddwl a hunan-niweidio cyn ac ar ôl bod yn EOTAS ac o’u cymharu â grŵp rheoli sydd â nodweddion oedran, rhyw a chymdeithasol-economaidd tebyg yng Nghymru.
Iechyd meddwl grwpiau cymdeithasol-economaidd, lleiafrifoedd ethnig a grwpiau heb wasanaethau digonol
Bydd y prosiect hwn yn ymchwilio i wahaniaethau o ran mynediad at wasanaethau a llwybrau iechyd meddwl grwpiau cymdeithasol-economaidd, lleiafrifoedd ethnig a grwpiau heb wasanaethau digonol.
Cyhoeddiadau
Cip ar Ddata: Cysylltiad rhwng absenoldeb a gwahardd o’r ysgol gyda chofnod o anhwylderau niwroddatblygiadol, anhwylderau meddwl neu hunan-niwed: Astudiaeth e-garfan genedlaethol o blant a phobl ifanc yng Nghymru
Mae’r Cip hwn ar Ddata yn archwilio’r cysylltiad rhwng absenoldeb a gwahardd o’r
ysgol gyda chofnod o anhwylderau niwroddatblygiadol, anhwylderau meddwl neu
hunan-niwed, mewn carfan fawr o blant a phobl ifanc yng Nghymru.