Beth yw effaith ein gwaith?
Fel buddsoddiad gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), mae ADR UK yn mabwysiadu’r diffiniad o effaith a ddefnyddir gan ESRC ac ar draws Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI) yn ei gyfanrwydd:
“Effaith yw’r cyfraniad amlwg y mae ymchwil rhagorol yn ei wneud i gymdeithas a’r economi.”
Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, llywio newidiadau ym mholisi’r llywodraeth ac arferion gwasanaethau cyhoeddus sy’n arwain at well canlyniadau cymdeithasol ac economaidd i bobl a chymunedau.
Gall yr effaith hon fod ar unrhyw lefel ddaearyddol, o’r lleol, i’r cenedlaethol a rhyngwladol.
Pa fathau o effaith y mae ADR UK yn anelu at eu cael?
Rydym yn ceisio sicrhau’r gwerth mwyaf posibl o gyrchu data gweinyddol, cysylltu, ac ymchwil ar draws y ‘Pum P’:
- Proses: hyrwyddo newid diwylliant parhaol tuag at gydweithio agosach rhwng academyddion a’r llywodraeth i rannu, cysylltu a defnyddio data gweinyddol ar gyfer ymchwil yn rheolaidd.
- Polisi: dylanwadu ar y llywodraeth neu gyrff cyhoeddus eraill i lywio polisïau, strategaethau a safonau, trwy ddealltwriaeth a mewnwelediad a gafwyd o’n hymchwil.
- Arfer: dylanwadu ar y sector cyhoeddus a gweithwyr proffesiynol eraill i newid neu gynnal y ffordd y maent yn darparu gwasanaethau cyhoeddus, wedi’u llywio gan ddealltwriaeth o’r ‘hyn sy’n gweithio’ a ddarperir gan ein hymchwil.
- Pobl: y gwelliannau diriaethol, byd go iawn i ganlyniadau ac ansawdd bywyd unigolion a chymunedau a all ddeillio o’r newidiadau i bolisi ac ymarfer y mae ein hymchwil yn eu hysgogi.
- Potensial: mae ein gwaith yn creu setiau data gweinyddol cysylltiedig cynaliadwy, a dealltwriaeth gynaliadwy o’r data a’r hyn y gallant eu dweud wrthym. Gall y rhain gael eu cyrchu gan ymchwilwyr eraill yn y dyfodol, gan eu galluogi i greu effaith ychwanegol ar bolisi, arfer a phobl.
Mae’r papur ‘ADR UK and Impact‘ yn cynnwys disgrifiad llawnach o’r modd yr ydym yn diffinio, categoreiddio a chynyddu ein heffaith.