Trosolwg
Cydnabyddir yn eang mai blynyddoedd cyntaf plentyn yw’r rhai mwyaf hanfodol wrth lunio’r oedolyn y bydd yn datblygu iddo.
Yn ystod y blynyddoedd cynnar hyn, gall adegau allweddol osod y llwybr ar gyfer canlyniadau fel pa mor dda y maent yn ei wneud yn yr ysgol, sut maent yn ymwneud ag eraill a’r cyfleoedd a gânt pan fyddant yn oedolion. Mae ein tîm Blynyddoedd Cynnar yn gweithio’n agos gyda’r Rhaglen Lywodraethu yng Nghymru i ddeall profiadau plant yn ystod y blynyddoedd hollbwysig hyn.
Gan gyfuno arbenigedd o gefndiroedd yn y blynyddoedd cynnar, iechyd plant, iechyd meddwl ac addysg i enwi dim ond rhai, mae tîm ymchwil Blynyddoedd Cynnar YDG Cymru yn dod â’r wybodaeth hon at ei gilydd i gyflwyno ymchwil cynhwysfawr sy’n llywio polisïau sydd eu hangen i helpu pob plentyn, ac yn enwedig y rhai o gefndiroedd difreintiedig.
Gan weithio ochr yn ochr â chydweithwyr o raglenni ymchwil sy’n canolbwyntio ar blant, gan gynnwys rhwydwaith ysgolion cynradd HAPPEN, Born in Wales, HDRUK a’r Schools for Health in Europe Foundation (SHE), mae ein gwaith yn edrych ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod â’r nod o gynghori polisi ac arfer gorau sy’n gallu cynorthwyo pobl ifanc agored i niwed orau. Mae ein portffolio Blynyddoedd Cynnar yn cynnwys dadansoddiad o’r canlyniadau ar gyfer plant sy’n cael eu geni o bwysau geni isel neu gyn pryd, parodrwydd ysgol isel, effaith ACE gan gynnwys trais domestig, byw gyda rhywun â phroblemau iechyd meddwl neu gam-drin sylweddau a chanlyniadau i blant sy’n cael eu rhoi mewn gofal.
Mae gwaith hefyd ar y gweill i asesu a yw mentrau a gwasanaethau fel rhaglen flaenllaw Dechrau’n Deg Llywodraeth Cymru a mentrau eraill sy’n ymwneud ag ariannu gofal plant a gwasanaethau i blant sy’n derbyn gofal yn cynyddu’r cyfleoedd i blant ifanc o gefndiroedd difreintiedig.
Yr arweinydd academaidd ar gyfer rhaglen Blynyddoedd Cynnar YDG Cymru yw’r Athro Sinead Brophy.
Blaenoriaethau
Mae’r Rhaglen Lywodraethu yn cydnabod pwysigrwydd y blynyddoedd cynnar ac yn cynnwys ymrwymiadau proffil uchel, megis parhau â rhaglenni Dechrau’n Deg ac ehangu darpariaeth y blynyddoedd cynnar i gynnwys pob plentyn 2 oed, o dan yr addewid i ddiogelu, ailadeiladu a datblygu ein gwasanaethau i bobl agored i niwed.
Byddwn yn gwneud gwaith sy’n cysylltu data mamolaeth, iechyd plant, iechyd y cyhoedd a gweinyddol i archwilio effaith galwedigaeth rhieni a iechyd yn ystod beichiogrwydd, y 1,000 diwrnod cyntaf a phrofiadau cyn-ysgol ar iechyd, cyrhaeddiad a llesiant y plentyn yn y blynyddoedd cynnar. Caiff y gwaith hwn ei lywio gan gyngor a mewnbwn gan rieni teuluoedd ifanc (rhieni sy’n disgwyl a’r rhai â phlant cyn oed ysgol), bydwragedd, ac ymwelwyr iechyd i sicrhau ein bod yn archwilio’r cwestiynau sydd bwysicaf i deuluoedd a gweithwyr iechyd proffesiynol. Mae rhaglen y blynyddoedd cynnar hefyd yn gweithio gyda rhaglenni gofal cymdeithasol, iechyd meddwl (i rieni), a llesiant YDG Cymru (yn arbennig yr amgylchedd adeiledig a mynediad at chwarae).
Byddwn yn parhau i weithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac awdurdodau lleol i helpu i ddangos tystiolaeth o anghenion llywodraeth leol i lywio penderfyniadau. Mae hyn yn cynnwys cefnogi awdurdodau lleol i rannu a chysylltu data ar raglenni blynyddoedd cynnar, gan gynnwys y Cynnig Gofal Plant a rhaglenni Dechrau’n Deg.
Prosiectau
Cyhoeddiadau
Cip ar Ddata: Proffilio daearyddol neu broffilio risg unigol wrth ostwng cyfraddau pwysau geni isel a gwella parodrwydd ar gyfer yr ysgol
Mae’r Cip hwn ar Ddata yn archwilio rhaglen Dechrau’n Deg fel adnodd proffilio daearyddol i nodi teuluoedd bregus, yn ddienw. Hefyd, mae’n archwilio modelau wedi’u llywio gan ddata fel dull gwahanol o nodi unigolion sydd mewn perygl o brofi digwyddiadau niweidiol.
Cip ar Ddata: Mae byw mewn ardal ddiogel, gysylltiedig yn gwella cyfleoedd bywyd i blant mewn tlodi yng Nghymru
Mae’r Cip hwn ar Ddata yn archwilio ffactorau yn yr ardal leol a all helpu plentyn i oresgyn effaith negyddol tlodi trwy edrych ar ba benderfynyddion economaidd-gymdeithasol ardal leol sy’n gysylltiedig â gwydnwch mewn plant. Mae’r astudiaeth hon wedi defnyddio Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (Malc 2011) i nodi crynodiadau ac amrywiaeth mewn sawl parth amddifadedd ar gyfer ardaloedd bach yng Nghymru a’i effaith ar blant.