Mae Llysgenhadon ADR UK yn bobl sy’n gweithio yn y llywodraeth ac o’i chwmpas ac sydd wedi ymrwymo i gynyddu a gwella’r defnydd o ddata gweinyddol ar gyfer ymchwil i lywio polisi ac ymarfer, o fewn eu hadrannau a’u cyrff eu hunain, ac mewn partneriaeth ag eraill. Maent yn rhan hanfodol o’n gwaith i adeiladu’r pontydd rhwng y llywodraeth a’r byd academaidd sydd eu hangen i wneud i hyn ddigwydd.

Daw ein Llysgenhadon o amrywiaeth o broffesiynau – o reoli a dadansoddi gwybodaeth, drwy ddata a diogelwch, i bolisi a darpariaeth weithredol – ac amrywiaeth o gamau gyrfa. Maent wedi’u huno gan y gred bod gan ddata gweinyddol a gedwir gan gyrff cyhoeddus botensial heb ei gyffwrdd i greu mewnwelediadau a all helpu i wneud penderfyniadau gwell, gan wella gwasanaethau cyhoeddus a bywydau pobl ledled y DU.

Mae Llysgenhadon ADR UK yn cael eu cydnabod yn gyhoeddus fel gwneuthurwyr newid sy’n cael eu gyrru gan ddata. Mae ganddynt rôl bwysig i’w chwarae wrth sicrhau bod potensial data er lles y cyhoedd yn cael ei harneisio, mewn ffordd sy’n ddiogel, cyfreithlon, moesegol a chynaliadwy, tra’n cynnal ymddiriedaeth a chefnogaeth y cyhoedd.

Sut ydw i’n dod yn Llysgennad ADR UK?

Llysgenhadon YDG Cymru

Albert Heaney CBE

Albert Heaney CBE, yw Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru, Llywodraeth Cymru. Mae Albert wedi gweithio ym maes Gwasanaethau Cyhoeddus ers yr 1980au. Cymhwysodd fel gweithiwr cymdeithasol ym 1988 a bu’n gweithio’n ym maes ymarfer i ddechrau cyn symud i rolau rheoli. Mae wedi arwain cyfarwyddiaeth polisi brysur yn y llywodraeth gan gyflwyno deddfwriaeth a pholisi gan gynnwys Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Mae Albert yn aelod o’r Bwrdd Cyfiawnder Teuluol ac yn Gadeirydd Rhwydwaith Cyfiawnder Teuluol Cymru.

Cyn ei swydd bresennol, bu Albert yn cyflenwi fel Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystod y pandemig. Mae’n gyn-Gyfarwyddwr Corfforaethol yn arwain ar Wasanaethau Plant ac Oedolion ac yn gyn-Lywydd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (ADSS Cymru). Mae Albert wedi cynrychioli ADSS Cymru mewn nifer o rolau gan gynnwys, Cyfarwyddwr Arweiniol i Blant a Chyfarwyddwr Arweiniol ar gyfer Diogelu ac Atal. Mae Albert yn gyn-Gadeirydd Bwrdd Diogelu Plant a Phwyllgor Amddiffyn Oedolion Ardal. Mae Albert wedi ymrwymo i hyrwyddo a sicrhau hawliau dinasyddion ac ymarfer cynhwysol, sy’n dod ag ymrwymiad i weithio mewn partneriaeth. Mae hefyd wedi cymryd rhan weithredol mewn ystod o fentrau cydweithio ac integreiddio.

Mae Albert yn dysgu Cymraeg ac mae’n gyd-gadeirydd Bwrdd Partneriaeth y Gymraeg mewn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Glyn Jones

Glyn Jones yw Prif Swyddog Digidol Llywodraeth Cymru, ar ôl bod yn Brif Ystadegydd Cymru yn flaenorol. Bu Glyn yn hybu menter ADR UK yn ystod ei gyfnod fel Cyd-gyfarwyddwr YDG Cymru (2018-2020).

Arweiniodd ei agwedd uchelgeisiol at ailddefnyddio data yn ddiogel i lywio penderfyniadau’r llywodraeth at sefydlu Uned Gwyddor Data gyntaf Llywodraeth Cymru. Gyda chefnogaeth Weinidogol, cododd y fenter flaenllaw hon allu gwyddor data o fewn Llywodraeth Cymru i gyflwyno prosiectau’n uniongyrchol i gefnogi gwneud penderfyniadau a phrosesau mewnol yn well. Roedd Glyn yn gyfrifol am arwain yr agenda ymchwil data gweinyddol yng Nghymru, gan groesawu diwylliant cadarnhaol o rannu data yn ddiogel ar gyfer ymchwil i sicrhau bod setiau data Cymru ar gael i’w hailddefnyddio mewn modd cynaliadwy ac ailadroddadwy.

Tracey Breheny

Mae Tracey yn Ddirprwy Gyfarwyddwr ar gyfer Iechyd Meddwl, Camddefnyddio Sylweddau a Grwpiau Bregus o fewn Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru. Mae hi’n gyfrifol am arwain polisi Llywodraeth Cymru ar: iechyd meddwl; grwpiau bregus; iechyd troseddwyr; camddefnyddio sylweddau a dementia. Cyn hyn, bu Tracey yn gweithio mewn nifer o rolau polisi, deddfwriaethol a chorfforaethol, yn fwyaf diweddar ym meysydd tlodi, tlodi plant a pholisi cymunedau. Yn ystod ei gyrfa, mae Tracey hefyd wedi gweithio ar bolisi cronfa strwythurol Ewropeaidd, diwygio llywodraeth leol ac roedd yn aelod o Uned Ddatganoli’r Swyddfa Gymreig (bryd hynny) a gefnogodd sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym 1997. Mae wedi bod yn was sifil ar hyd ei gyrfa, ac mae Tracey wedi gweithio yn y Swyddfa Gymreig a Llywodraeth Cymru ers dros 30 mlynedd.