Gwahaniaethau rhwng amcangyfrifon o allu yn y Gymraeg yng Nghyfrifiad 2021 ac arolygon aelwydydd

Canfyddiadau cychwynnol prosiect cysylltu data sy’n archwilio gwahaniaethau rhwng amcangyfrifon o allu yn y Gymraeg yng Nghyfrifiad 2021 ac arolygon aelwydydd. Mae’r cyhoeddiad hwn yn un o allbynnau cynllun gwaith ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) i wella ein dealltwriaeth o ystadegau’r Gymraeg.

Cip ar Ddata: Codio clinigol a dal COVID Hir: astudiaeth garfan yng Nghymru yn defnyddio data iechyd a demograffig cysylltiedig

Mae’r Cipolwg Data hwn yn ymwchwilio i godio clinigol COVID Hir a gofnodwyd mewn gofal sylfaenol ac eilaidd ar gyfer poblogaeth Cymru i gynorthwyo dealltwriaeth o ansawdd y codio, amrywiad o ran defnydd mewn systemau meddalwedd gofal sylfaenol, cyflawnrwydd a defnyddioldeb data. At hynny, mae’r astudiaeth hon yn darparu nodweddiad cynhwysfawr o gleifion sydd wedi cael diagnosis clinigol o COVID Hir, gyda’r nod o feithrin dealltwriaeth ddyfnach o’r cyflwr cymharol newydd hwn.

Cip ar Ddata: A yw aelwydydd fferm yn wahanol? Peth tystiolaeth o Gymru

Mae’r Cipolwg Data hwn yn cyflwyno data ar strwythur aelwydydd fferm yng Nghymru ac yn eu cymharu ag aelwydydd gwledig eraill nad oeddent yn ffermio. Cyflawnwyd y gwaith gan dîm AD|ARC (Data Gweinyddol | Casglu Ymchwil Amaethyddol), prosiect a ariennir gan YDG yn y DU. Y prosiect sy’n ceisio integreiddio’r dimensiwn dynol â data ar weithgareddau ffermio. Mae hyn yn ein galluogi i ddeall yn well nodweddion demograffig, iechyd, addysg ac economaidd aelwydydd fferm sy’n gysylltiedig â busnesau fferm o wahanol fathau a meintiau. Nod AD|ARC yw darparu’r mewnwelediadau sydd eu hangen ar y rhai sy’n gwneud penderfyniadau i wella polisïau’r dyfodol a gwella lles ffermwyr a’u haelwydydd.

Cip ar Ddata: Prosiect Cyswllt Data Statws Preswylwyr Sefydlog yr Undeb Ewropeaidd (EUSS) (Cymru): Canfyddiadau rhagarweiniol ar gyfer addysg

Mae’r Cipolwg Data hwn yn darparu dadansoddiad rhagarweiniol o ddata addysg sy’n ymwneud â phlant a aned yn yr UE sy’n byw yng Nghymru a phlant a aned yng Nghymru sy’n byw yng Nghymru, sy’n manylu ar eu presenoldeb a’u cyrhaeddiad yn yr ysgol. Mae’n seiliedig ar ddadansoddiad o ddata Addysg Cymru sy’n gysylltiedig â data Cyfrifiad 2011. Mae’r dadansoddiad hwn yn rhan o Brosiect Cyswllt Data Statws Preswylwyr Sefydlog yr UE (EUSS), sy’n ceisio cysylltu data dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd (UE) â data arall a gedwir eisoes o fewn Banc Data SAIL, sydd wedi’i leoli ym Mhrifysgol Abertawe.

Adroddiad: Prosiect cysylltu data Cefnogi Pobl: diweddariad

Mae’r prosiect hwn yn dilyn ac yn cael ei lywio gan astudiaeth ddichonoldeb cysylltu data Cefnogi Pobl ac adroddiad y prosiect cysylltu data Cefnogi Pobl ar ganfyddiadau sy’n dod i’r amlwg, gan ddefnyddio hen ddata Cefnogi Pobl gan bum awdurdod lleol yng Nghymru (rhwng 2003 a 2020). Cafodd y rhaglen Cefnogi Pobl ei disodli gan y Grant Cymorth Tai yn 2019.

Mae’r adroddiad hwn yn dadansoddi demograffeg Cefnogi Pobl i ddeall pwy gafodd gymorth gan y rhaglen. Yn ogystal â hynny, mae’n amlinellu canfyddiadau o ddadansoddiad a oedd wedi cysylltu’r data Cefnogi Pobl â data gofal iechyd yn y banc data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw i ddeall defnydd cleientiaid y Rhaglen Cefnogi Pobl o ofal iechyd cyn ac ar ôl cael cymorth.

Cip ar Ddata: Archwilio’r berthynas gymhleth rhwng deddfwriaeth, polisïau ac ymchwil: prosiect Amgylchedd Adeiledig ac Iechyd Plant yng Nghymru ac Awstralia (BEACHES)

Mae’r Cipolwg Data hwn yn canolbwyntio ar y gwaith sy’n cael ei wneud gan dîm Amgylchedd Adeiledig ac Iechyd Plant ac AuStralia (BEACHES) ym Mhrifysgol Abertawe. Menter ar y cyd rhwng Prifysgol Abertawe, Sefydliad Telethon Kids a Phrifysgol Gorllewin Awstralia yw BEACHES, gyda chydweithwyr o Brifysgol Curtin, Prifysgol Monash, Prifysgol Technoleg Queensland a Phrifysgol De Denmarc. Mae’r Cipolwg Data hwn yn rhoi crynodeb o ddeddfwriaeth a meysydd polisi allweddol Cymru o ran amgylchedd adeiledig ac iechyd plant.

Esboniad Data: Setiau data Plant sy’n Derbyn Gofal

Mae’r Esboniad Data hwn yn crynhoi cynnwys a defnyddiau posibl set ddata Cyfrifiad Plant sy’n Derbyn Gofal (CLA) – sef y set ddata sylfaenol sy’n ymwneud â phlant sy’n derbyn gofal yng
Nghymru (a’i his-setiau: set ddata mabwysiadu plant sy’n derbyn gofal; set ddata’r rhai sy’n gadael gofal 16 oed a throsodd; set ddata’r rhai sy’n gadael gofal ar eu pen-blwydd yn 19 oed; a set ddata cymwysterau addysgol y rhai sy’n gadael gofal).

Nod y papur hwn yw tywys ymchwilwyr sydd â diddordeb mewn defnyddio’r setiau data hyn i ymchwilio i brofiadau plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal yng Nghymru.

Cip ar Ddata: Archwilio’r pontio i addysg ôl-orfodol yng Nghymru

Cipolwg Data hwn yn archwilio’r newid o’r ysgol i Addysg a Hyfforddiant Ôl-Orfodol (PCET) yng Nghymru.

Cip ar Ddata: Y dilyniant rhwng y rhywiau a’r bwlch cyflog i athrawon yng Nghymru

Archwiliodd y Cipolwg Data hwn wahaniaethau rhwng staff addysgu benywaidd a gwrywaidd ar wahanol gyfnodau gyrfa gan ddefnyddio Cyfrifiad Blynyddol Gweithlu’r Ysgol (SWAC). Canfu’r dadansoddiad fod athrawon benywaidd yn ennill mwy nag athrawon gwrywaidd ar lefel athrawon ar lawr dosbarth. Fodd bynnag, gwrthdrôdd y duedd hon i athrawon mewn uwch arweinyddiaeth, lle’r oedd athrawon gwrywaidd yn ennill, ar gyfartaledd, 6% yn fwy ar ôl rheoli ar gyfer nodweddion pwyllog eraill. Yn ogystal, roedd athrawon benywaidd yn llawer llai tebygol o ddal rolau uwch reoli.

Filters
Reset
Reset