Trosolwg
Pam mae rhai unigolion yn ymuno â marchnad lafur Cymru sydd eisoes mewn sefyllfa ddifreintiedig? Pa ymyriadau y gellir eu gwneud i fynd i’r afael â’r anfantais hon? Dyma rai o’r cwestiynau y bydd rhaglen ymchwil Sgiliau a Chyflogadwyedd YDG Cymru yn ymchwilio iddynt.
Bydd y rhaglen arloesol hon yn parhau i weithio gyda phartneriaid addysg yng Nghymru i ddeall yn well y rhwystrau y mae unigolion yn eu hwynebu wrth ddod o hyd i waith ystyrlon a chael mynediad at y sgiliau a’r hyfforddiant sydd eu hangen i gystadlu yn y farchnad lafur. Mae’r ymchwil yn cyd-fynd ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i adeiladu “economi yn seiliedig ar egwyddorion gwaith teg, cynaliadwyedd a diwydiannau a gwasanaethau’r dyfodol”.
Mae rhyngweithio unigolion â gwasanaethau o’r llywodraeth (fel rhaglenni cymorth cyflogaeth a hyfforddiant) ac asiantaethau trydydd sector (fel Gyrfa Cymru) yn cynhyrchu adnodd cyfoethog o ddata gweinyddol y gall y tîm ymchwil ei ddefnyddio i ddysgu am y ffactorau economaidd-gymdeithasol a demograffig amrywiol sy’n effeithio ar gyflogaeth a chanlyniadau’r farchnad lafur. Gall cysylltu’r data hyn ar draws setiau data addysg a chyfrifiad nas nodwyd gael hyd yn oed mwy o effaith wrth gynhyrchu ymchwil sy’n llywio polisi sydd ei angen i helpu i dorri’r cylch tlodi.
Blaenoriaethau
Mae ein thema ymchwil sgiliau a chyflogadwyedd wedi’i datblygu i gyd-fynd â’r blaenoriaethau allweddol yn Cymru Gryfach, Decach a Gwyrddach: Cynllun ar gyfer Cyflogadwyedd a Sgiliau, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2022.
Bydd y gwaith hwn yn canolbwyntio ar dri maes: gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ar yrfaoedd; cyfranogiad a dilyniant addysg uwch; a’r farchnad lafur yng Nghymru.
Gan ddatblygu ein cydweithrediad â Gyrfa Cymru ymhellach, byddwn yn edrych ar y llwybrau gyrfa a’r dyheadau a fwriedir ar gyfer y rhai sy’n gadael yr ysgol. Byddwn yn ystyried a yw gwahanol grwpiau, megis y rhai â chyrhaeddiad addysgol is, yn dilyn eu llwybrau a’u dyheadau arfaethedig gan ddefnyddio data arolwg a gweinyddol cysylltiedig.
Byddwn hefyd yn archwilio’r berthynas rhwng arweiniad ar yrfaoedd a dilyniant i addysg uwch, gan ymestyn gwaith blaenorol a ddangosodd effaith arweiniad ar barhau mewn addysg ôl-orfodol yn 16 oed.
Byddwn yn archwilio pwy sy’n symud ymlaen i addysg uwch a phwy sy’n fwy tebygol o roi’r gorau iddi. Byddwn yn edrych ar bwysigrwydd cefndir teuluol a phwy sydd fwyaf tebygol o gael mynediad at sefydliad addysg uwch mawreddog. Byddwn hefyd yn archwilio a yw’r trawsnewidiadau hyn yn amrywio ar gyfer siaradwyr Cymraeg a’r rhai a addysgwyd drwy gyfrwng y Gymraeg.
Byddwn yn edrych ar lwybrau a chadw graddedigion yn y farchnad lafur yng Nghymru, a byddwn yn cysylltu data addysg â chofrestri’r gweithluoedd gofal cymdeithasol ac addysgu, gan nodi llwybrau mynediad a nodweddion y rhai sy’n ymuno â’r meysydd cyflogaeth penodol hyn. Byddwn hefyd yn archwilio cyfranogiad mewn hyfforddiant cysylltiedig â gwaith ac effeithiau rhaglenni a gynlluniwyd i gefnogi cyfranogiad a dilyniant yn y farchnad lafur.
Prosiectau
Ehangu cyfranogaeth yn y sector addysg drydyddol yng Nghymru
Wedi’i gomisiynu gan Ganolfan Cymru ar gyfer Polisi Cyhoeddus (WCPP), mae’r prosiect hwn yn canolbwyntio ar gydraddoldeb ac ehangu cyfranogaeth, cadw a chyrhaeddiad ar draws y sector trydyddol yng Nghymru. Bydd y prosiect yn cynorthwyo dealltwriaeth helaethach o ddylanwadau ar symud ymlaen trwy, a chyrhaeddiad mewn, addysg ôl-orfodol trwy ofyn cwestiynau fel:
- Beth yw nodweddion dysgwyr dros 16 oed mewn sefydliadau wedi’u cyllido gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â nodwedd wedi’i diogelu a’i chynorthwyo a sut mae’r nodweddion hyn a ddiogelir yn gysylltiedig â chamu ymlaen ymhellach trwy addysg a hyfforddiant ôl-orfodol?
- Sut mae’r rhain yn cymharu â’r rheini yn y boblogaeth ehangach?
Bydd canfyddiadau yn cyfrannu at sylfaen dystiolaeth yr agenda gyfranogi sy’n ehangu a gwaith y Comisiwn newydd ar gyfer Addysg ac Ymchwil Trydyddol.
Cyfarwyddyd Gyrfaoedd mewn Lleoliadau Addysg Ôl-Orfodol
Mae’r trosglwyddiad o addysg orfodol i waith yn dod yn gynyddol gymhleth. O ganlyniad i waith blaenorol ochr yn ochr â gwasanaeth cyfarwyddyd gyrfaoedd Gyrfa Cymru Llywodraeth Cymru, mae dealltwriaeth fanwl o ddarpariaeth cyngor a chyfarwyddyd gyrfaoedd mewn ysgolion. Fodd bynnag, ychydig a wyddys am ymgysylltiad disgyblion mewn addysg a hyfforddiant ôl-orfodol. Bydd y prosiect hwn yn erych ar lenwi’r bwlch tystiolaeth hwnnw trwy ofyn cwestiynau fel:
- Pwy sy’n derbyn cyfawyddyd gyrfaoedd yn ystod Cam Allweddol 5?
- Beth yw natur y ddarpariaeth hon a sut mae’n amrywio rhwng y rheini mewn addysg bellach, y rheini mewn lleoliadau chweched dosbarth a’r rheini sy’n cymryd cymwysterau academaidd yn hytrach na galwedigaethol?
Iaith Gymraeg a symud ymlaen i Addysg Uwch
Mae denu a chadw graddedigion yn hanfodol i berfformiad economaidd lleol a rhanbarthol ac fel y cyfryw, mae diddordeb mewn daearyddiaeth llafur graddedigion yn y DU yn tyfu. Mae’r materion hyn yn neilltuol o berthnasol mewn perthynas â Chymru gan fod bodolaeth ‘draen ymennydd’ o lafur graddedigion o Gymru wedi dod yn ffocws dadl ddiweddar.
Mae’r prosiect hwn yn anelu at ddeall materion o gwmpas symud myfyrwyr sy’n siarad Cymraeg ymlaen trwy ofyn cwestiynau fel:
- Pa ffactorau sy’n gysylltiedig â symud ymlaen i Addysg Uwch?
- Pa fyfyrwyr sy’n fwy tebygol o fynd mewn i brifysgolion mawr eu bri?
- A yw’r ffactorau hyn yn gwahaniaethu ymhlith y rheini sy’n rhugl yn y Gymraeg neu sydd wedi bod mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg?
Cyhoeddiadau
Cip ar Ddata: Ydy hi’n talu i siarad Cymraeg? Effaith iaith a mudo ar yrfaoedd cynnar myfyrwyr Cymru
Mae’r Mewnwelediad Data hwn yn archwilio dylanwad yr iaith Gymraeg a mudo ar enillion graddedigion sy’n byw yng Nghymru tua chwe mis ar ôl graddio.
Cip ar Ddata: Pwy sy’n cael swydd graddedig? Effaith iaith a mudo ar yrfaoedd cynnar myfyrwyr Cymrus
Mae’r Cip ar Ddata hwn yn archwilio dylanwad yr iaith Gymraeg a mudo ar y tebygolrwydd y bydd graddedigion sy’n byw yng Nghymru mewn swydd raddedig tua chwe mis ar ôl cwblhau eu hastudiaethau.
Cip ar Ddata: A ddylwn i aros neu a ddylwn i fynd? Archwilio dewisiadau prifysgol myfyrwyr Cymru
Mae’r Cip ar Ddata hwn yn archwilio nodweddion myfyrwyr prifysgol sy’n gadael Cymru at ddibenion addysg ac yn eu cymharu â’r rhai sy’n aros.

