Trosolwg
Sut mae creu Cymru lle mae digartrefedd yn brin, am gyfnod byr a ddim yn cael ei ailadrodd? Mae’r cwestiwn pwysig hwn yn llywio ein hymchwil o dan y maes thematig hwn. Byddwn yn archwilio cyfleoedd ar gyfer ymyriadau mwy amserol, ac yn cynhyrchu sylfaen dystiolaeth ar yr hyn sy’n gweithio i atal digartrefedd, i bwy ac ym mha gyd-destun.
Rydym yn cydnabod bod digartrefedd yn aml yn ganlyniad i dai sy’n ansicr, yn annigonol yn gorfforol neu’n brin o breifatrwydd. Bydd ein hymchwil felly’n cyffwrdd â materion ehangach sy’n ymwneud â thai, megis y rhai sy’n ymwneud â thai (mewn)fforddiadwyedd, sydd ynddo’i hun yn arwain at ansicrwydd tai.
Yn ogystal, rhan fawr o’n gwaith fydd cydweithio â’r tîm polisi digartrefedd yn Llywodraeth Cymru a’r sector cymorth tai ehangach yng Nghymru, i wella’r broses o gasglu data digartrefedd awdurdodau lleol ac i adneuo data hanesyddol ym Manc Data SAIL er mwyn hwyluso ymchwil seiliedig ar gysylltu.
Mae gweithio ochr yn ochr â chymheiriaid o’r Ganolfan Effaith Digartrefedd, Canolfan Gydweithredol y DU ar gyfer Tystiolaeth Tai (CaCHE) a Sefydliad Data a Dulliau Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD), a thimau polisi Llywodraeth Cymru, yn sicrhau y bydd ein hymchwil yn fwy perthnasol. ac effaith ar waith y sector cysylltiedig â thai yng Nghymru a’r DU yn ehangach.
Blaenoriaethau
Caiff ein gwaith yn y maes ymchwil hwn ei arwain gan gynllun gweithredu lefel uchel y llywodraeth a gyhoeddwyd yn 2021 i sicrhau Cymru lle mae digartrefedd yn brin, am gyfnod fyr, ac nid yw’n cael ei ailadrodd. Cawn ein harwain hefyd gan y gydnabyddiaeth bod digartrefedd yn aml yn ganlyniad i dai sy’n ansicr, o ansawdd gwael, ac yn rhy ddrud, ac er mwyn mynd i’r afael â digartrefedd, rhaid i ni felly fynd i’r afael â materion ehangach sy’n ymwneud â thai.
Rhan fawr o’n gwaith fydd cydweithio â’r tîm polisi digartrefedd yn Llywodraeth Cymru a’r sector ehangach sy’n ymwneud â chymorth tai yng Nghymru, er mwyn gwella proses casglu data digartrefedd gan awdurdodau lleol a rhoi data hanesyddol ym Manc Data SAIL er mwyn hwyluso ymchwil sy’n seiliedig ar gysylltedd.
Byddwn yn darparu tystiolaeth o effeithiau digartrefedd ac ansicrwydd tai ar ystod o ganlyniadau, gan gynnwys defnyddio gwasanaethau gofal iechyd a thriniaeth camddefnyddio sylweddau.
Byddwn yn hyrwyddo nodau’r llywodraeth i gynyddu atal digartrefedd drwy ddarparu tystiolaeth ar ba gamau gweithredu awdurdodau lleol sy’n gweithio i atal a rhoi diwedd ar ddychwelyd i ddigartrefedd, ac ar gyfer pa grwpiau o bobl.
Bydd ein gwaith yn cyfrannu at yr agenda ‘ailgartrefu cyflym’ yng Nghymru, fel yr amlinellir yn y Rhaglen Lywodraethu, drwy archwilio faint o amser mae’n ei gymryd ar hyn o bryd i ailgartrefu pobl sy’n profi digartrefedd, a yw darparu llety sefydlog i bobl yn arwain yn gyflym at ganlyniadau tai hirdymor sefydlog, ac a ellir creu meincnod o ran pa mor gyflym y dylid ailgartrefu pobl.
Trwy gysylltiad rhwng ffynonellau data o feysydd polisi sydd fel arall yn wahanol, byddwn yn archwilio i ba raddau y mae digartrefedd yn gorgyffwrdd â mathau eraill o anfantais ddifrifol megis problemau iechyd meddwl, defnyddio sylweddau, dibyniaeth ar alcohol, a rhyngweithio â’r system cyfiawnder troseddol. Drwy gyfuno data ar draws meysydd polisi, byddwn hefyd yn cymryd rhan mewn ymchwil i ddangos yr effaith bosib y gall gweithio’n well ar draws sectorau ei chael ar ymdrechion atal digartrefedd (ac ehangach). Er enghraifft, byddwn yn archwilio a ellir defnyddio rhyngweithiadau gyda’r heddlu fel arwydd ar gyfer nodi’n gynnar y bobl sy’n mynd at dimau tai awdurdodau lleol oherwydd trais domestig.
Byddwn yn edrych ar farchnadoedd rhentu a fforddiadwyedd, gan gynnwys y sector rhentu preifat yng Nghymru, cyfraddau lwfans tai lleol, a budd-daliadau tai.
Byddwn yn parhau â’r gwaith a ddechreuwyd o dan YDG Cymru 2019-21 ar effaith Covid-19 ar y boblogaeth ddigartref yng Nghymru, gan gynnwys y nifer sy’n cael y brechiad Covid-19.
Rydym yn cydnabod y bydd ein gwaith ar ddigartrefedd a thai yn croestorri â llawer o’r meysydd ymchwil thematig, yn enwedig y rheini sy’n ymwneud â llesiant a chyfiawnder cymdeithasol, a byddwn yn gweithio ar y cyd lle bo’n briodol ac yn fuddiol i effaith ein gwaith.
Prosiectau
Llwybrau tai pobl ifanc yn y DU
Mae’r prosiect hwn yn anelu at adnabod patrymau o ddefnyddio tai dros amser, ymhlith carfan o bobl ifanc. Bydd yn cymharu ei ganfyddiadau ag astudiaeth a gynhaliwyd ddegawd yn ôl, ac yn amlygu unrhyw newidiadau posibl mewn tai pobl ifanc rhwng y ddau gyfnod amser.
Brechiadau COVID-19 ymhlith pobl sy’n profi digartrefedd yng Nghymru
Mae’r prosiect hwn yn anelu at ddarparu tystiolaeth perthynol i gwmpas ac amseroldeb brechiadau COVID-19 ymhlith pobl sy’n profi digartrefedd yng Nghymru, â’r nod o fonitro cydraddoldeb brechlynnau.
Bydd yn edrych ar ba gyfran o bobl sy’n profi digartrefedd yng Nghymru gafodd eu brechu flwyddyn i mewn i’r rhaglen frechu, a sut y newidiodd cwmpas y brechu dros amser.
Anfantais Luosog Ddwys yng Nghymru
Gan ddilyn ymlaen o’r gwaith a gyflawnwyd eisoes yn Lloegr a’r Alban, bydd y prosiect hwn yn darparu tystiolaeth ar raddau’r anfantais luosog ddwys yng Nghymru.
Bydd yn ymchwilio i ba raddau mae anfanteision dwys megis digartrefedd, problemau iechyd meddwl, defnydd sylweddau, dibyniaeth ar alcohol a rhyngweithredoedd â’r system cyfiawnder troseddol, yn gorgyffwrdd ymhlith pobl yng Nghymru.
A yw ailgartrefu pobl yn gyflym yn arwain at ganlyniadau cartrefu mwy sefydlog?
Bydd y prosiect hwn yn darparu tystiolaeth ar ‘ailgartrefu cyflym’ mewn gwasanaethau digartrefedd – ymagwedd seiliedig ar y syniad bod ailgartrefu pobl sy’n profi digartrefedd yn gyflym yn lleihau canlyniadau negyddol. Bydd yn ymchwilio os yw’r swm o amser mae’n gymryd i ailgartrefu pobl sy’n profi digartrefedd yn gwahaniaethu rhwng is-grwpiau poblogaeth, ac a yw’r amser a gymerir i ailgartrefu rhywun yn gysylltiedig a’u sefydlogrwydd mewn cartref.
Bydd y canlyniadau yn ffurfio gwaith i’r dyfodol i greu meincnod ‘ailgartrefu cyflym’. Mae’r feincnod yn anelu at adnabod ar ba adeg mae cyfleoedd aelwyd o brofi digartrefedd eto yn cael eu lleihau.
Cyhoeddiadau
Adroddiad: Prosiect cysylltu data Cefnogi Pobl: diweddariad
Mae’r prosiect hwn yn dilyn ac yn cael ei lywio gan astudiaeth ddichonoldeb cysylltu data Cefnogi Pobl ac adroddiad y prosiect cysylltu data Cefnogi Pobl ar ganfyddiadau sy’n dod i’r amlwg, gan ddefnyddio hen ddata Cefnogi Pobl gan bum awdurdod lleol yng Nghymru (rhwng 2003 a 2020). Cafodd y rhaglen Cefnogi Pobl ei disodli gan y Grant Cymorth Tai yn 2019.
Mae’r adroddiad hwn yn dadansoddi demograffeg Cefnogi Pobl i ddeall pwy gafodd gymorth gan y rhaglen. Yn ogystal â hynny, mae’n amlinellu canfyddiadau o ddadansoddiad a oedd wedi cysylltu’r data Cefnogi Pobl â data gofal iechyd yn y banc data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw i ddeall defnydd cleientiaid y Rhaglen Cefnogi Pobl o ofal iechyd cyn ac ar ôl cael cymorth.