Anghydraddoldebau o ran dilyniant gyrfa

Bydd y prosiect hwn yn edrych ar weithwyr yng Nghymru gyda’r nod o nodi a oes modd mesur tegwch o fewn llwybrau dilyniant yn enwedig yn ôl grwpiau ethnig.

Defnyddio gwasanaethau iechyd yng Nghymru

Nod y prosiect hwn yw creu dangosydd defnydd gwasanaeth iechyd dymunol i nodweddu dosbarthiad y boblogaeth nad ydynt yn defnyddio’r gwasanaeth iechyd fel mesur o wytnwch iechyd. Bydd y prosiect yn edrych ar ba gyfran o boblogaeth Cymru sy’n bodloni meini prawf y dangosydd a sut mae hyn yn amrywio yn ôl amddifadedd a grwpiau â nodweddion gwarchodedig.

Achosion o ymosodiadau’n cael eu cyflwyno i wasanaethau iechyd ymhlith grwpiau lleiafrifol yng Nghymru

Bydd y prosiect hwn yn defnyddio data iechyd, demograffig ac arolwg i ymchwilio i weld a yw pobl o grwpiau lleiafrifoedd ethnig, pobl anabl, LGBTQIA+, menywod a grwpiau anneuaidd yn profi cyfraddau uwch o ymosodiadau na phobl eraill yn y boblogaeth.

Amddifadedd a chlefydau cronig

Mae’r prosiect hwn yn ceisio cymharu llwybrau clefydau cronig yn ôl amddifadedd ar lefel ardal ar gyfer poblogaeth Cymru. Bydd ymchwilwyr yn ceisio darganfod a yw unigolion sy’n byw mewn ardaloedd mwy difreintiedig yn cronni afiechydon yn gynt nag unigolion sy’n byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig.

Anghydraddoldebau poblogaeth yng Nghymru

Gan ddefnyddio data iechyd, demograffig a gweinyddol presennol a newydd, nod y prosiect hwn yw creu sylfeini y gellir seilio ymchwil yn y dyfodol ar nodweddion poblogaeth Cymru arnynt. Bydd y gwaith hwn yn helpu ymchwilwyr i broffilio a chategoreiddio’r boblogaeth ar gyfer ymchwil i anghydraddoldebau yn y dyfodol.

Arfarnu rhaglen gyflwyno brechiad Covid-19 yng Nghymru, a ledled y DU

Mae’r prosiect hwn yn anelu at ddarparu tystiolaeth ar gwmpas ac amseroldeb brechiadau Covid-19.

Bydd yn edrych ar:

  • Anghydraddoldebau ymgymryd ar gyfer brechiadau Covid-19 a ffliw rhwng 2020 a 2021.
  • Y risg o dderbyniadau ysbyty a marwolaethau Covid-19 ar ôl brechiadau atgyfnerthu Covid-19 hydref 2022.
  • Cysylltiadau â thanfrechu yn erbyn Covid-19 yn haf 2022 a risg ddilynol o dderbyniad ysbyty a marwolaethau Covid-19.
  • Tueddiadau mewn heintiad SARS-CoV-2 a brechu mewn staff ysgolion, myfyrwyr ac aelodau eu haelwydydd o 2020-2022 yng Nghymru

Ar y cyd, bydd y cwestiynau hyn yn cyd-fynd a gwaith sy’n digwydd ledled y DU, fydd yn cynorthwyo monitro ac arfarnu ansawdd brechlyn.

Anghydraddoldebau mewn digwyddiadau iechyd difrifol yn dilyn heintiad o Covid-19.

Bydd y prosiect hwn yn dilyn ymlaen o waith blaenorol a edrychodd ar anghydraddoledebau iechyd mewn marwolaethau a derbyniadau ysbyty Covid-19 yng Nghymru. Bydd yn dadansoddi derbyniadau a marwolaethau perthynol i Covid-19 gan edrych ar beth yw’r ffactorau cyfryngol ar gyfer anghydraddoldebau yn dilyn Covid-19.

Covid-19 a Covid Hir – Beth yw’r effaith ar anghydraddoldebau o fewn cymdeithas?

Bydd y prosiect hwn yn edrych ar amlder a digwyddiad effeithiau tymor hir Covid-19 yng Nghymru â’r nod o adnabod os yw’r effeithiau yn amrywio ar draws grwpiau poblogaeth gwahanol. Bydd y canfyddiadau yn darparu tystiolaeth ar y nifer o achosion a gofnodwyd o Covid Hir yng Nghymru, gan gynorthwyo dealltwriaeth o gyflawnder ansawdd y codio a defnyddioldeb y data ar gyfer ymchwil y dyfodol.

Llwybrau tai pobl ifanc yn y DU

Mae’r prosiect hwn yn anelu at adnabod patrymau o ddefnyddio tai dros amser, ymhlith carfan o bobl ifanc. Bydd yn cymharu ei ganfyddiadau ag astudiaeth a gynhaliwyd ddegawd yn ôl, ac yn amlygu unrhyw newidiadau posibl mewn tai pobl ifanc rhwng y ddau gyfnod amser.

Brechiadau COVID-19 ymhlith pobl sy’n profi digartrefedd yng Nghymru

Mae’r prosiect hwn yn anelu at ddarparu tystiolaeth perthynol i gwmpas ac amseroldeb brechiadau COVID-19 ymhlith pobl sy’n profi digartrefedd yng Nghymru, â’r nod o fonitro cydraddoldeb brechlynnau.

Bydd yn edrych ar ba gyfran o bobl sy’n profi digartrefedd yng Nghymru gafodd eu brechu flwyddyn i mewn i’r rhaglen frechu, a sut y newidiodd cwmpas y brechu dros amser.

Filters
Reset