Trosolwg
Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi datgan mai newid hinsawdd yw’r bygythiad iechyd unigol mwyaf sy’n wynebu dynoliaeth, ac mae Adroddiad Gwyddoniaeth diweddaraf y Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd (IPCC) yn dod i’r casgliad:
“Mae’r dystiolaeth wyddonol gronnol yn ddiamwys: mae newid hinsawdd yn fygythiad i les dynol ac iechyd planedol. Bydd unrhyw oedi ychwanegol cyn gweithredu byd-eang cydunol ar addasu a lliniaru yn colli cyfnod byr sy’n cau’n gyflym o gyfleoedd i sicrhau dyfodol byw a chynaliadwy i bawb.”1
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i’r argyfwng hinsawdd â nifer o bolisïau allweddol, gan gynnwys Sero Net Cymru (2021-2025) a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015), â’r nod o adeiladu Cymru ‘lanach, gryfach a thecach’ dros y degawdau nesaf.
Gall polisïau hinsawdd sydd wedi’u cynllunio i leihau ein dibyniaeth ar danwydd ffosil achosi risgiau i rai sectorau, ond gallant hefyd gynnig cyfle i ddatblygu polisïau a all drawsnewid cymdeithas er gwell. Mae’n hanfodol, dros y ‘degawd gweithredu nesaf’, fod gan Lywodraeth Cymru fynediad at ddata a thystiolaeth o ansawdd uchel i: helpu i fonitro risgiau a chyfleoedd pontio sero net, sicrhau bod polisïau hinsawdd o fudd i’r gymdeithas gyfan, a helpu i flaenoriaethu cyllid tuag at yr atebion hinsawdd mwyaf -cost-effeithiol.
Bydd ein thema’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill i nodi meysydd blaenoriaeth a harneisio potensial data gweinyddol erfri’u dadanabod o fewn Banc Data SAIL. Byddwn yn cynhyrchu tystiolaeth a all lywio polisi a helpu Cymru i gyflawni trawsnewidiad teg a chynhwysol i sero net, lle mae cymdeithas a natur i gyd yn ffynnu.
Bydd ein rhaglen ymchwil yn canolbwyntio ar dri mater pwysig yng Nghymru:
- Effeithiau tywydd eithafol ar iechyd
- Risgiau a chyfleoedd pontio newid yn yr hinsawdd
- Cysylltiadau rhwng bioamrywiaeth, cydnerthedd ecosystemau ac iechyd.
Arweinir y thema ymchwil Newid yn yr Hinsawdd gan Arweinwyr Cyd-Academaidd, Rich Fry a Lucy Griffiths.
1 IPCC, 2022: Crynodeb i Wneuthurwyr Polisi. 2022.
Blaenoriaethau
Bydd ein rhaglen ymchwil yn canolbwyntio ar dri mater dybryd yng Nghymru: effeithiau tywydd eithafol ar iechyd; risgiau a chyfleoedd pontio newid yn yr hinsawdd; a chysylltiadau rhwng bioamrywiaeth, cydnerthedd ecosystemau a iechyd.
Byddwn yn edrych ar nodweddion cymdeithasol-ddemograffig ac iechyd pobl sy’n byw mewn ardaloedd llifogydd risg uchel, a sut mae cyfansoddiad y boblogaeth wedi newid ag amser. Byddwn hefyd yn archwilio’r risgiau iechyd a llesiant tymor byr a hirdymor sy’n gysylltiedig â thywydd eithafol yng Nghymru, a’r posibilrwydd o fodelu’r canfyddiadau hyn i lywio datblygiad polisi yn y dyfodol.
Byddwn yn helpu Llywodraeth Cymru i fonitro’r risgiau a’r cyfleoedd pontio a allai ddeillio o bolisïau a gynlluniwyd i ddatgarboneiddio Cymru. Byddwn yn canolbwyntio’n benodol ar deithio cynaliadwy a seilwaith gwyrdd ac yn archwilio’r gallu i: werthuso proses cyflwyno deddfwriaeth 20mya yng Nghymru; diffinio a nodi cymdogaethau 20 munud a nodweddion cymdeithasol-ddemograffig a iechyd cysylltiedig; mesur y ‘potensial’ ar gyfer teithio gweithredol a chynaliadwy mewn cymunedau ledled Cymru; ac ymchwilio i gysylltiadau rhwng mentrau iechyd a seilwaith gwyrdd.
Rydym hefyd wedi nodi sawl ffynhonnell data bioamrywiaeth/gwytnwch ecosystemau yng Nghymru y gellid eu cysylltu â data SAIL i ymchwilio i: nodweddion demograffig-gymdeithasol pobl sy’n byw yn yr ardaloedd mwyaf/lleiaf bioamrywiol/ecosystem wydn yng Nghymru; y ‘ddamcaniaeth bioamrywiaeth’ newydd; ac a yw tyfu i fyny mewn amgylcheddau bioamrywiol yn lleihau’r risg o alergeddau, asthma a chlefydau llidiol cronig eraill.
Prosiectau
Tymereddau cynyddol a’r effaith ar iechyd y boblogaeth
Bydd y prosiect yn edrych ar sut mae cyfnewidioldeb ac eithafion tymheredd yn effeithio ar iechyd y boblogaeth. Trwy gysylltu data tymheredd y Swyddfa Dywydd â data iechyd a gweinyddol, bydd y tîm yn archwilio effeithiau cyfnewidioldeb ac eithafion tymheredd ar gyflyrau cardiofasgwlaidd ac anadlol yn y poblogaethau iau a hŷn.
Effeithiau tymereddau uwch ar ganlyniadau iechyd mamol, ffetysol a newydd-enedigol yng Nghymru
Bydd y prosiect hwn yn edrych ar sut mae tymereddau uwch yn effeithio ar ganlyniadau iechyd mamol, ffetysol a newydd-enedigol yng Nghymru. Bydd yn ymchwilio i sut mae ffactorau cymdeithasol-ddemograffig, ansawdd tai, a rhai amgylcheddol eraill yn effeithio ar y canlyniadau hyn. Trwy’r astudiaeth o fio nodwyr seiliedig mewn labordy, bydd y tîm ymchwil yn edrych ar sut mae straen gwres yn effeithio ar iechyd y brych.
Teithio gweithredol ymhlith plant oed ysgol yng Nghymru
Mewn cydweithrediad â Iechyd Cyhoeddus Cymru, bydd y prosiect hwn yn edrych ar ba gyfran o blant oed ysgol yng Nghymru sydd â’r ‘potensial’ i deithio’n weithredol i’r ysgol a sut mae hyn yn cymharu â chyfraddau a hunanadroddwyd. Gan edrych ar yr Arolwg Cenedlaethol i Gymru (NSW) a’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgol (SHRN), bydd y tîm ymchwil yn diffinio pellterau cerddedadwy a seicladwy. Bydd gwaith yn y dyfodol yn cynnwys nodweddion amgylcheddol megis traffig, ar amgylchedd adeiledig a diogelwch i ddatblygu darlun mwy realistig o allu cerdded.
Gwella dealltwriaeth o anghydraddoldebau poblogaethau yng Nghymru
Bydd y gwaith hwn yn defnyddio data demograffig a gweinyddol presennol a newydd i nodweddu poblogaeth Cymru i grwpiau cymdeithasol-economaidd, ar y cyrion ac agored i niwed o unigolion i gynorthwyo dealltwriaeth yn y dyfodol o anghydraddoldebau poblogaeth yng Nghymru.