Trosolwg
Mae rhaglen ymchwil Addysg YDG Cymru wedi’i datblygu yn unol ag uchelgais Llywodraeth Cymru i gyflwyno rhaglen hirdymor o ddiwygio addysg a sicrhau bod anghydraddoldebau addysgol yn culhau a safonau’n codi. Ategir hyn gan yr ymrwymiad na chaiff unrhyw ddisgybl ei ‘adael ar ôl’ ar ôl pandemig Covid-19.
Cefnogir rhaglen waith YDG Cymru yn y maes hwn gan Labordy Data Addysg WISERD (WEDL). Sefydlwyd WEDL ym mis Mawrth 2019 i ddarparu dadansoddiad annibynnol o ddata addysg weinyddol i lywio trafodaeth genedlaethol ar rai o’r materion addysgol mwyaf cyfoes a dybryd sy’n wynebu Cymru.
Gyda ffocws penodol ar addysg brif ffrwd, orfodol, mae rhaglen Addysg YDG Cymru yn rhoi’r wybodaeth i lunwyr polisi i wneud penderfyniadau yn y sefyllfa orau i gynorthwyo’r sector addysg yng Nghymru a’r bobl ifanc y mae’n eu gwasanaethu.
Mae deall effaith anfantais a bregusrwydd yn rhan o’r holl waith a wneir gan dîm Addysg YDG Cymru. Gyda’r cefndir hwn bydd prosiectau sy’n cynnwys y rhai sy’n canolbwyntio ar effaith colli dysgu, datblygiad cyrhaeddiad a dilyniant, y canlyniadau ar gyfer y rhai sy’n gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim a phatrymau ac effaith diffyg presenoldeb yn yr ysgol yn cael eu harchwilio.
Yr arweinydd academaidd ar gyfer rhaglen Addysg YDG Cymru yw’r Athro Chris Taylor.
Blaenoriaethau
Mae addysg yng Nghymru yn newid. Mae diwygiadau ysgolion yn digwydd, gan gynnwys ffyrdd newydd o hyfforddi a chefnogi staff, a bydd cwricwlwm newydd yn cael ei gyflwyno i bob dysgwr erbyn 2026. Golyga hyn bod yr angen am dystiolaeth, a gwerth posib ymchwil data gweinyddol, yn hynod bwysig. Gall y newidiadau hyn greu heriau o ran y gallu i gymharu setiau data ac argaeledd data cyrhaeddiad, a byddwn yn gweithio gyda swyddogion a’r sector i fynd i’r afael â hyn.
Bydd ein gwaith yn y maes hwn yn edrych ar faterion sy’n canolbwyntio ar y disgybl a’r gweithlu. Byddwn yn astudio patrymau gwaharddiadau ysgolion yng Nghymru a Lloegr, gan edrych ar ddiffyg presenoldeb a gofnodwyd fel gwaharddiadau a’r ffactorau disgyblion ac ysgolion sy’n gysylltiedig â gwaharddiadau. Byddwn hefyd yn edrych ar batrymau diffyg presenoldeb nad ydynt yn gysylltiedig â gwaharddiad, gan nodweddu eto gwahaniaethau mewn presenoldeb sy’n gysylltiedig â disgyblion ar wahanol gamau o’u haddysg.
Byddwn yn archwilio dewis pynciau yng nghyfnodau allweddol 4 a 5, yn enwedig nodweddion disgyblion sy’n dewis pynciau ieithoedd tramor, ac yn archwilio graddau’r anghydraddoldebau o ran argaeledd pynciau.
Byddwn yn edrych ar effeithiau lleol Covid-19 ar ddeilliannau disgyblion a materion staffio, a sut y gellid eu hesbonio gan ffactorau lleol neu gymunedol. Byddwn yn astudio’r defnydd o blatfform dysgu Llywodraeth Cymru, Hwb, a rôl technoleg mewn ysgolion cyn ac ers Covid-19.
Byddwn yn edrych ar Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) mewn addysg orfodol a sut mae ADY yn effeithio ar bresenoldeb, cynllunio gyrfa a chyrhaeddiad Cyfnodau Allweddol.
Byddwn yn archwilio rôl y teulu mewn deilliannau addysgol, gan gynnwys effaith dangosyddion economaidd-gymdeithasol ac effaith brodyr a chwiorydd a’r amgylchedd dysgu yn y cartref.
Byddwn yn ystyried rôl sgiliau Cymraeg a defnydd ymhlith y gweithlu addysgu, gan
ganolbwyntio ar athrawon dosbarth a rolau cymorth dysgu i nodi lefel bresennol sgiliau Cymraeg staff addysgu a chymorth.
Byddwn hefyd yn edrych ar ddyraniad amser cwricwlwm fesul pwnc yng nghyfnodau allweddol 3-5.
Byddwn yn archwilio gwahaniaethau cyflog a dilyniant rhwng athrawon gwrywaidd a benywaidd ac amrywiaeth ethnig ymhlith y gweithlu addysgu, yn ogystal â chyflogau, contractau, recriwtio a chadw athrawon a staff cymorth addysgu.
Byddwn hefyd yn edrych ar arweinyddiaeth ysgolion a’i heffaith ar ddeilliannau disgyblion, yn enwedig dosbarthiad a chyfran y staff mewn rolau uwch reolwyr a rheolwyr canol a’r effaith y mae hyn yn ei chael ar ddeilliannau TGAU, presenoldeb disgyblion a dilyniant i addysg bellach a hyfforddiant.
Prosiectau
Gwahaniaeth rhywiau mewn tâl athrawon a chamu ymlaen
Bydd y prosiect hwn yn ymchwilio os oes gwahaniaethau yn y gyfran o athrawon gwrywaidd a benywaidd sy’n dal safleoedd arweinyddiaeth mewn ysgolion. Bydd yn ystyried y tâl a lefelau profiad athrawon sydd wedi camu ymlaen i rolau arweinyddiaeth fesul rhyw. Bydd yn profi hefyd a yw gwahaniaethau fesul rhyw yn gyson ar draws mathau o ysgolion.
Sgiliau iaith Gymraeg a defnydd o staff addysgu a chymorth
Bydd y prosiect hwn yn ymchwilio i sgiliau a defnydd o’r iaith Gymraeg ymhlith athrawon ystafell ddosbarth a’r rheini sy’n darparu cymorth dysgu. Byddwn yn ystyried sut mae’r cyfraddau hyn yn gwahaniaethu fesul rhanbarth ac Awdurdod Lleol.
Cysylltiadau rhwng cyrhaeddiad disgyblion a nodweddion aelwydydd
Bydd y prosiect yn ymchwilio i sut mae cyrhaeddiad plant yn yr ysgol yn gysylltiedig â nodweddion aelwyd fel maint yr aelwyd, cyfansoddiad yr aelwyd a mesurau cymdeithasol-economaidd yr aelwyd.
Cyhoeddiadau
Cip ar Ddata: Y dilyniant rhwng y rhywiau a’r bwlch cyflog i athrawon yng Nghymru
Archwiliodd y Cipolwg Data hwn wahaniaethau rhwng staff addysgu benywaidd a gwrywaidd ar wahanol gyfnodau gyrfa gan ddefnyddio Cyfrifiad Blynyddol Gweithlu’r Ysgol (SWAC). Canfu’r dadansoddiad fod athrawon benywaidd yn ennill mwy nag athrawon gwrywaidd ar lefel athrawon ar lawr dosbarth. Fodd bynnag, gwrthdrôdd y duedd hon i athrawon mewn uwch arweinyddiaeth, lle’r oedd athrawon gwrywaidd yn ennill, ar gyfartaledd, 6% yn fwy ar ôl rheoli ar gyfer nodweddion pwyllog eraill. Yn ogystal, roedd athrawon benywaidd yn llawer llai tebygol o ddal rolau uwch reoli.
Cip ar Ddata: Cysylltiad rhwng absenoldeb a gwahardd o’r ysgol gyda chofnod o anhwylderau niwroddatblygiadol, anhwylderau meddwl neu hunan-niwed: Astudiaeth e-garfan genedlaethol o blant a phobl ifanc yng Nghymru
Mae’r Cip hwn ar Ddata yn archwilio’r cysylltiad rhwng absenoldeb a gwahardd o’r
ysgol gyda chofnod o anhwylderau niwroddatblygiadol, anhwylderau meddwl neu
hunan-niwed, mewn carfan fawr o blant a phobl ifanc yng Nghymru.