Gweithio ar feysydd allweddol yn ein cymdeithas i wella bywydau pawb.

Archwiliwch ein

Darparu ymchwil sydd o fudd cyhoeddus amlwg i’r Llywodraeth a chyrff cyhoeddus â’r nod o wella bywydau pobl Cymru.

Galluogi’r gymuned ymchwil yng Nghymru, a’r DU, drwy gaffael data, curadu data a diogelu data.

Meithrin gallu a hyfforddi’r gymuned ymchwil trwy addysg ac arferion gorau.

Y Newyddion Diweddaraf a Blogiau

Gweinidog yn canmol rôl YDG Cymru yn cefnogi gwneud penderfyniadau ac yn galw am rannu data’n uchelgeisiol

Mae Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a Phrif Chwip Llywodraeth Cymru, Jane Hutt, wedi rhoi clod i YDG Cymru am ei waith i helpu Cymru i ddod yn arweinydd rhyngwladol o ran…
Darllen mwy

Adroddiad a gyhoeddwyd gyntaf yn seiliedig ar ddadansoddiad yn y Gwasanaeth Data Integredig yn edrych ar allu yn y Gymraeg

Mae adroddiad newydd sy’n seiliedig ar ddadansoddiad yn y Gwasanaeth Data Integredig (IDS) newydd wedi edrych ar y gwahaniaethau rhwng yr amcangyfrifon o allu yn y Gymraeg a adroddwyd yng…
Darllen mwy

Prosiect newydd wedi’i osod i archwilio cyflyrau iechyd a chanlyniadau cymdeithasol ar lefel aelwydydd

Bydd prosiect cysylltu data newydd o’r enw Cartrefi Iach yn ymchwilio i gyfansoddiad aelwydydd a’r amgylchiadau y maent yn eu profi. Ariennir y prosiect gan ADR UK ac fe’i harweinir…
Darllen mwy

Cyhoeddiadau Diweddaraf

Gwahaniaethau rhwng amcangyfrifon o allu yn y Gymraeg yng Nghyfrifiad 2021 ac arolygon aelwydydd

Canfyddiadau cychwynnol prosiect cysylltu data sy’n archwilio gwahaniaethau rhwng amcangyfrifon o allu yn y Gymraeg yng Nghyfrifiad 2021 ac arolygon aelwydydd. Mae’r cyhoeddiad hwn yn un o allbynnau cynllun gwaith ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) i wella ein dealltwriaeth o ystadegau’r Gymraeg.

Cip ar Ddata: Codio clinigol a dal COVID Hir: astudiaeth garfan yng Nghymru yn defnyddio data iechyd a demograffig cysylltiedig

Mae’r Cipolwg Data hwn yn ymwchwilio i godio clinigol COVID Hir a gofnodwyd mewn gofal sylfaenol ac eilaidd ar gyfer poblogaeth Cymru i gynorthwyo dealltwriaeth o ansawdd y codio, amrywiad o ran defnydd mewn systemau meddalwedd gofal sylfaenol, cyflawnrwydd a defnyddioldeb data. At hynny, mae’r astudiaeth hon yn darparu nodweddiad cynhwysfawr o gleifion sydd wedi cael diagnosis clinigol o COVID Hir, gyda’r nod o feithrin dealltwriaeth ddyfnach o’r cyflwr cymharol newydd hwn.

Cip ar Ddata: A yw aelwydydd fferm yn wahanol? Peth tystiolaeth o Gymru

Mae’r Cipolwg Data hwn yn cyflwyno data ar strwythur aelwydydd fferm yng Nghymru ac yn eu cymharu ag aelwydydd gwledig eraill nad oeddent yn ffermio. Cyflawnwyd y gwaith gan dîm AD|ARC (Data Gweinyddol | Casglu Ymchwil Amaethyddol), prosiect a ariennir gan YDG yn y DU. Y prosiect sy’n ceisio integreiddio’r dimensiwn dynol â data ar weithgareddau ffermio. Mae hyn yn ein galluogi i ddeall yn well nodweddion demograffig, iechyd, addysg ac economaidd aelwydydd fferm sy’n gysylltiedig â busnesau fferm o wahanol fathau a meintiau. Nod AD|ARC yw darparu’r mewnwelediadau sydd eu hangen ar y rhai sy’n gwneud penderfyniadau i wella polisïau’r dyfodol a gwella lles ffermwyr a’u haelwydydd.