Mae YDG Cymru (Ymchwil Data Gweinyddol Cymru) yn dod ag arbenigwyr gwyddor data byd-enwog, academyddion blaenllaw a thimau arbenigol o fewn Llywodraeth Cymru at ei gilydd i gynhyrchu tystiolaeth sy’n llywio penderfyniadau polisi’r dyfodol yng Nghymru. Mae’r bartneriaeth mewn sefyllfa ddelfrydol i wneud y mwyaf o ddefnyddioldeb data dienw a diogel i lywio’r gwaith o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus, a fydd yn y pen draw yn gwella bywydau pobl Cymru.
Mae YDG Cymru yn uno arbenigwyr ym mhob maes o Wyddor Data Poblogaeth ym Mhrifysgol Abertawe a Sefydliad Ymchwil a Data Cymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD) ym Mhrifysgol Caerdydd ag ystadegwyr, economegwyr ac ymchwilwyr cymdeithasol o Lywodraeth Cymru. Mae’r technegau dadansoddi data arloesol a rhagoriaeth ymchwil a ddatblygwyd, ynghyd â’r Banc data SAIL bydenwog, yn galluogi darparu ymchwil cadarn, diogel ac addysgiadol.
Nod y data a gysylltir ac a ddadansoddwyd gan YDG Cymru yw mynd i’r afael â’r meysydd blaenoriaeth ar gyfer gweithredu yng Nghymru, fel y nodir yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru. Y blynyddoedd cynnar, addysg, tai, gofal cymdeithasol, cyfiawnder cymdeithasol, iechyd meddwl, iechyd a lles, newid hinsawdd, sgiliau a chyflogaeth a blaenoriaethau’r llywodraeth sy’n dod i’r amlwg megis effaith y pandemig; fydd yn ganolog i waith y bartneriaeth.
Bydd gwaith YDG Cymru yn galluogi Llywodraeth Cymru i ddeall llawer mwy am y berthynas rhwng gwahanol feysydd o ddarpariaeth gwasanaeth – er enghraifft, y cysylltiad rhwng iechyd a thai – ac i ddeall profiadau pobl yn well wrth iddynt symud trwy wahanol wasanaethau. Bydd hyn yn ei dro yn cefnogi datblygiad polisi integredig gwell i gynorthwyo cenedlaethau’r dyfodol.
Mae YDG Cymru yn adeiladu ar hanes o ddefnyddio dulliau a seilwaith arloesol i gysylltu a dadansoddi data dienw yn ddiogel. Mae dadansoddiadau blaenorol wedi cyfrannu at waith datblygu, monitro a gwerthuso ymyriadau polisi Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys yr adroddiadau canlynol: Tlodi Tanwydd, y rhaglen cymorth digartrefedd Cynorthwyo Pobl; a rhaglen datblygu’r blynyddoedd cynnar Dechrau’n Deg.
Mae YDG Cymru yn rhan o bartneriaeth ADR DUfwy. Mae ADR UK yn cynnwys pedair partneriaeth genedlaethol (ADR England, ADR Northern Ireland, ADR Scotland ac YDG Cymru), a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), sy’n sicrhau bod ymchwilwyr yn cael mynediad at ddata a ddarperir gan gyrff Llywodraeth y DU mewn ffurf ddiogel a sicr ag ychydig iawn o risg i ddeiliaid data neu’r cyhoedd.
Cydlynir y bartneriaeth gan Ganolfan Strategol ar gyfer y DU gyfan, sydd hefyd yn hyrwyddo manteision ymchwil data gweinyddol i’r cyhoedd a’r gymuned ymchwil ehangach, yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU i sicrhau mynediad at ddata, ac yn rheoli cyllideb ymchwil bwrpasol.
Rhaglen Waith 2022 – 2026
Mae Rhaglen Waith Arfaethog YDG Cymru yn nodi sut y byddwn yn cyflawni yn erbyn ein strategaeth gyhoeddedig.
Er 2018, mae ein gwaith wedi’i alinio’n strategol i fynd i’r afael â meysydd a amlinellir yn y strategaeth genedlaethol Ffyniant i Bawb (2017) a’r ymrwymiadau sy’n sail i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, ac yn fwy diweddar y Rhaglen Lywodraethu yng Nghymru (2021- 2026).
Diolch i’n trefniant unigryw a’n cysylltiad agos â thimau polisi o fewn y llywodraeth cyn dechrau gweithio, mae ein rhaglen waith ar gyfer y pedair blynedd nesaf yn cyd-fynd yn uniongyrchol â llywio anghenion tystiolaeth polisi ym meysydd addysg, y blynyddoedd cynnar, sgiliau a chyflogadwyedd, iechyd meddwl, llesiant, tai a digartrefedd, gofal cymdeithasol, newid yn yr hinsawdd, a chyfiawnder cymdeithasol. O ganlyniad, rydym yn hyderus bod gofynion y tîm ymchwil a’r timau polisi yn cael eu bodloni gan yr holl waith ymchwil a wneir, a bod cyfle sylweddol i gael effaith.
Rydym hefyd wedi datblygu adnoddau pwrpasol a fydd yn canolbwyntio ar effaith y pandemig a newidiadau mawr eraill ar gymdeithas, ac uwchsgilio’r gymuned o ddadansoddwyr ac ymchwilwyr cysylltu data yn y DU.
Ein Cyllid
Mae ADR UK yn fuddsoddiad gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) i ddechrau rhwng Gorffennaf 2018 a Mawrth 2022. Ym mis Medi 2020, cymeradwywyd £15.3 miliwn o gyllid gan UKRI, yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) a Thrysorlys EM ar gyfer y 2021/22 flwyddyn ariannol, i gwmpasu blwyddyn gyntaf buddsoddiad hirdymor pum mlynedd. Ym mis Medi 2021, sicrhawyd y £90.12 miliwn a oedd yn weddill gan Lywodraeth y DU i barhau i dyfu’r rhaglen am bedair blynedd arall, tan fis Mawrth 2026. O’r buddsoddiad partneriaeth o £90 miliwn, dyfarnwyd bron i £17 miliwn i YDG Cymru.