Ymrwymiad
Mae YDG Cymru yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr ymgysylltu ym mhob rhan o bartneriaeth ADR UK, gan gadw at ragoriaeth ymgysylltu ac ymdrechu i’w chael yn unol â Strategaeth Ymgysylltu â’r Cyhoedd ADR UK.
Rydym wedi ymrwymo i ymgysylltu parhaus a thryloyw â phoblogaeth Cymru ynghylch y defnydd eilaidd o ddata gweinyddol. Bydd yr ymgysylltu hwn yn parhau i fwydo i mewn i’n rhaglen ymchwil a’i harwain. Trwy gyfuniad o ddigwyddiadau cyhoeddus, paneli rhanddeiliaid a grwpiau a Phanel Defnyddwyr SAIL rydym yn ymdrechu i sicrhau cyfathrebu agored ar ein gwaith, ei ddyluniad, ein hymdrechion i sicrhau preifatrwydd a sut rydym yn cyfathrebu ein canfyddiadau. Rydym wedi ymrwymo i ymgysylltu parhaus a thryloyw â phoblogaeth Cymru ynghylch y defnydd eilaidd o ddata gweinyddol.
Bydd ein rhaglen ymchwil yn parhau i gael mynediad at Banel Defnyddwyr SAIL, â chysylltiadau ychwanegol i ymgysylltu penodol â rhanddeiliaid a amlygir gan yr ymgysylltu parhaus a ddangosir mewn prosiectau megis AD|ARC ac EUSS. Mae YDG Cymru yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr ymgysylltu ym mhob rhan o bartneriaeth ADR UK, gan gadw at ragoriaeth ymgysylltu ac ymdrechu i’w chael yn unol â strategaeth ymgysylltu ADR UK â’r cyhoedd.

