Mae Lucy Griffiths, Cyd-gyfarwyddwr YDG Cymru ac Athro Epidemioleg yn Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe, wedi cael ei hethol yn Gymrawd Academi’r Gwyddorau Cymdeithasol. Mae hi ymhlith 74 o wyddonwyr cymdeithasol blaenllaw a gydnabyddir eleni am gyfraniadau rhagorol i ymchwil, polisi ac ymarfer. Mae Cymrodoriaeth yr Academi yn cydnabod unigolion nodedig y mae eu gwaith wedi cael effaith sylweddol ar fynd i’r afael â’r heriau mawr sy’n wynebu cymdeithas, gan ddilyn proses adolygu gan gymheiriaid drylwyr ac annibynnol.
Mae ymchwil yr Athro Griffiths yn defnyddio astudiaethau cohort hydredol a data gweinyddol cysylltiedig i archwilio sut mae ffactorau cymdeithasol ac amgylcheddol yn dylanwadu ar iechyd a datblygiad plant a phobl ifanc. Mae ei gwaith yn canolbwyntio’n benodol ar grwpiau agored i niwed, gan gynnwys plant sy’n ymwneud â gwasanaethau gofal cymdeithasol a’r rhai sy’n byw mewn tlodi neu’n profi adfyd. Mae hi hefyd yn darparu arweinyddiaeth strategol ar draws buddsoddiadau ymchwil mawr yn y DU ac mae wedi arwain rhaglenni ymchwil data ar raddfa fawr, sy’n canolbwyntio ar bolisi, a ariennir gan sefydliadau gan gynnwys y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, y Cyngor Ymchwil Feddygol, Sefydliad Nuffield, Ymddiriedolaeth Wellcome, ADR UK ac Ymchwil Data Iechyd y DU.
Dywedodd yr Athro Griffiths fod y gydnabyddiaeth yn adlewyrchu “cefnogaeth a chydweithrediad llawer o gydweithwyr” drwy gydol ei gyrfa. Dywedodd ei bod yn edrych ymlaen at ddefnyddio’r cyfleoedd cynyddol a gynigir gan ddata gweinyddol cysylltiedig i hyrwyddo ymchwil a allai wella bywydau plant a theuluoedd.
