Hoda Abbasizanjani

Swyddog Ymchwil, Heriau Cymdeithasol Mawr

Mae Hoda yn Swyddog Ymchwil ac yn Wyddonydd Data ar gyfer ffrwd waith PAND|AR ac mae wedi’i lleoli ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ei rôl bresennol yn canolbwyntio ar ddadansoddi data iechyd a gweinyddol cysylltiol i fynd i’r afael â blaenoriaethau effaith Covid-19 ar Gymru ac ymchwilio i heriau cymdeithasol sy’n dod i’r amlwg.

Mae gan Hoda brofiad o weithio gyda data mawr ac mae’n arbenigo mewn technegau cysylltu data gan ddefnyddio Banc Data SAIL, dadansoddi data a delweddu data. Cyn ymuno ag YDG Cymru, roedd yn gweithio fel Gwyddonydd Data ar gyfer tîm Ymchwil Data Iechyd y DU (HDR-UK) a Chonsortiwm CVD-COVID-UK. Roedd yn rhan o brosiectau amrywiol yn ymwneud â deall y berthynas rhwng Covid-19 a chlefydau cardiofasgwlaidd, trosglwyddiad Covid-19 mewn ysgolion ac iechyd plant a mamau. Mae ganddi MSc mewn Peirianneg Electronig a PhD mewn Cyfrifiadureg.