Yn ystod pandemig Covid-19, rhoddodd Llywodraeth Cymru flaenoriaeth i bobl sy’n profi digartrefedd fel rhan o’r rhaglen brechu torfol yng Nghymru. Roedd y blaenoriaethu hwn yn seiliedig ar dystiolaeth fyd-eang yn amlygu canlyniadau iechyd gwaeth ymhlith pobl sy’n profi digartrefedd, a allai arwain at gymhlethdodau Covid-19 a marwolaeth pe baent yn cael eu heintio gan y firws.

Mae tîm Tai a Digartrefedd YDG Cymru wedi archwilio’r nifer sy’n cael brechiad Covid-19 ymhlith pobl sydd â phrofiadau diweddar o ddigartrefedd. Bydd y canfyddiadau’n helpu llunwyr polisi a darparwyr gwasanaethau yng Nghymru i asesu graddau anghydraddoldeb brechlynnau, ac effeithiolrwydd ymdrechion i flaenoriaethu pobl sy’n profi digartrefedd.

Defnyddiodd y tîm ddata gwasanaethau gofal iechyd a defnyddio sylweddau heb eu nodi i ddod o hyd i bobl a oedd wedi profi digartrefedd yng Nghymru yn ddiweddar, a chyfuno hyn â gwybodaeth am frechlynnau Covid-19 a ddarperir gan GIG Cymru.

Mae canfyddiadau cychwynnol yn awgrymu bod pobl â phrofiadau o ddigartrefedd wedi cael llai o frechiadau o gymharu â’r boblogaeth gyffredinol, ar raddfa a oedd yn unol ag astudiaethau rhyngwladol eraill.

Yn ogystal â dangos tystiolaeth o flaenoriaethu brechlynnau, mae’r dadansoddiad hwn yn dangos y manteision o fod â gwybodaeth sy’n ymwneud â’r profiad o ddigartrefedd fel mater o drefn. Mae hyn yn ychwanegu at y sylfaen dystiolaeth o blaid gwella’r casgliadau data hyn yng Nghymru a’r DU.