Stuart Bedson

Uwch Swyddog Ymchwil, Heriau Cymdeithasol Mawr

Mae Stuart yn Wyddonydd Data ac yn Uwch Swyddog Ymchwil ar gyfer YDG Cymru ac yn un o’r ymchwilwyr ar y thema Heriau Cymdeithasol Mawr. Mae ganddo PhD mewn Ystadegau Cymhwysol ac mae wedi gweithio fel ymchwilydd meintiol ar draws y gwyddorau cymdeithas ac iechyd ers nifer o flynyddoedd. Er 2020, mae Stuart wedi defnyddio Banc Data SAIL i gynnal dadansoddiadau manwl ar draws sawl prosiect dylanwadol. Mae ei brosiectau blaenorol yn cynnwys cydweithio ar draws y DU i edrych ar y nifer a dderbyniodd frechlynnau Covid-19, eu diogelwch a’u heffeithiolrwydd, yn ogystal â phrosiectau yn edrych ar blant sydd â chysylltiad â gofal cymdeithasol a’r system cyfiawnder teuluol o ran anghydraddoldebau cymdeithasol.