Mae Sonia yn weinyddwr ar gyfer YDG Cymru sydd wedi’i lleoli yng Nghaerdydd. Mae’n cefnogi tîm ymchwilwyr academaidd YDG Cymru, ei Gyfarwyddwr Cysylltiol a Rheolwr y Rhaglen. Mae Sonia hefyd yn gweinyddu Labordy Diogel Caerdydd; yn cynnal ac yn darparu gwybodaeth gyfredol am brosiectau; yn cynnull y cyfarfodydd bob pythefnos ar gyfer ymchwilwyr thematig YDG; yn trefnu digwyddiadau ad hoc a chyrsiau hyfforddiant ac yn cynnig cymorth gweinyddol i YDG Cymru a WISERD ar draws ystod eang o feysydd eraill.
Mae’n gyfrifydd rheoli cymwysedig ac mae ganddi BSc (Anrhydedd) mewn Cyfrifyddu o Ysgol Fusnes Caerdydd.