Mae Silvia yn gyfrifol am y gwaith dadansoddol ar thema ymchwil y Blynyddoedd Cynnar. Yn benodol, mae’n gwerthuso prosiectau Cynnig Gofal Plant Cymru a Dechrau’n Deg. Caiff y dadansoddiadau eu cynnal gan ddefnyddio setiau data cysylltiol yn ymwneud ag addysg, iechyd a data economaidd-gymdeithasol ym Manc Data SAIL. Mae hefyd yn cefnogi datblygiad blaenoriaeth Iechyd Meddwl YDG Cymru trwy gysylltu ag academyddion, swyddogion polisi a thîm YDG Cymru. Mae ei gwaith ar y Blynyddoedd Cynnar ac Iechyd Meddwl yn cyd-fynd â’i chefndir proffesiynol ac addysgol ac mae ganddi PhD mewn Seicoleg Datblygiadol o Brifysgol Caerdydd.

