Sarah yw’r Pennaeth Datblygu Prosiectau ac Effaith ar gyfer rhan Llywodraeth Cymru o YDG Cymru. Arweiniodd Sarah raglen Llywodraeth Cymru i Wneud Gwell Defnydd o Ddata Presennol o 2009-2018, a llwyddodd i gael sawl rownd o gyllid ESRC i gyflawni prosiectau cysylltu data yn gysylltiedig â pholisi i Gymru. Cyn hynny, arweiniodd Sarah Dîm Arolygon Llywodraeth Cymru ac roedd ganddi gysylltiad agos â datblygu arolwg Byw yng Nghymru 2008 a bu ganddi rolau mewn amrywiaeth o swyddogaethau cydlynu a chyflawni ymchwil gymdeithasol i Lywodraeth Cymru er 2001. Am bum mlynedd gyntaf ei gyrfa 24 mlynedd yng Ngwasanaethau Ystadegol ac Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth, gweithiodd Sarah yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (1995-2000) yn cyflwyno’r Arolwg Diet a Maeth Cenedlaethol: pobl ifanc rhwng 4 a 18 oed.
