Rosie Kirk

Ystadegydd y Llywodraeth, AD|ARC

Mae Rosie wedi ymuno â’r Uned Ymchwil Data Gweinyddol yn Llywodraeth Cymru yn ddiweddar ac mae’n rhan o’r tîm sy’n gweithio ar y prosiect Data Gweinyddol | Casgliad Ymchwil Amaethyddol (AD|ARC). Nod y prosiect hwn yw dod â gwybodaeth at ei gilydd, gan gynnwys data yn ymwneud ag agweddau busnes ar ffermio, ynghyd â data ar lesiant ffermwyr, gweithwyr fferm a theuluoedd ffermio. Bydd hyn yn helpu i greu set ddata gyfannol a all gynnig tystiolaeth i hwyluso penderfyniadau a llunio polisïau. Mae’r prosiect yn cyd-fynd â sawl un o feysydd ymchwil thematig YDG, gan gynnwys Iechyd a Llesiant a Newid yn yr Hinsawdd. Rôl flaenorol Rosie oedd Dadansoddwr Gwybodaeth Iechyd Cyhoeddus dan Hyfforddiant (Prentis) yn Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU.