Olivier Rouquette

Swyddog Ymchwil, Iechyd Meddwl

Mae Olivier yn Swyddog Ymchwil ar gyfer y thema ymchwil Iechyd Meddwl. Mae ganddo PhD, gradd ddwbl mewn Gwyddorau Chwaraeon o Brifysgol Abertawe (DU) ac mewn Seicoleg o Université Grenoble Alpes (Ffrainc). Ar hyn o bryd, mae’n ymchwilydd ac yn wyddonydd data mewn gwyddor data iechyd yn y tîm Seiciatreg, Hunanladdiad a Gwybodeg y Boblogaeth (PPSI) yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, gan weithio yn nhîm yr Athro Ann John. Mae ymchwil Olivier yn cwmpasu iechyd meddwl a llesiant plant a phobl ifanc. Ar hyn o bryd, mae Olivier yn gweithio ar gynnig dealltwriaeth well o iechyd meddwl a thrywydd myfyrwyr prifysgol yng Nghymru. Mae Olivier hefyd yn gysylltiedig ag ymchwil sydd â’r nod o ddeall ffactorau iechyd meddwl sy’n gysylltiedig â disgyblion sy’n derbyn addysg heblaw yn yr ysgol (AHY).