Mae Michaela yn Swyddog Ymchwil ar gyfer thema ymchwil Y Blynyddoedd Cynnar ac mae wedi’i lleoli ym Mhrifysgol Abertawe. Mae’n arbenigo mewn iechyd a llesiant plant, yn enwedig ymarfer corff a chwarae. Mae’n rheoli HAPPEN (Rhwydwaith Iechyd a Chyrhaeddiad Disgyblion mewn Addysg Gynradd), sydd a thros 30,000 o ymatebion gan blant oed cynradd ledled Cymru. Mae HAPPEN yn casglu data ar iechyd a llesiant plant y gall ysgolion ei ddefnyddio i lunio eu hymagweddau unigol tuag at eu cynlluniau iechyd a llesiant. Mae Michaela yn gweithio ar sawl prosiect hefyd, fel RPlace (ap symudol i helpu pobl ifanc i roi sgôr i’w mannau lleol a’u hadolygu i ddylanwadu ar newid), ac mae’n arwain tîm o ymchwilwyr sy’n eirioli ac yn grymuso pobl ifanc i leisio eu barn am faterion sy’n effeithio ar eu hiechyd a llesiant. Mae ei gwaith cyfredol hefyd yn cynnwys cydgynhyrchu blaenoriaethau ymchwil ac ymyriadau ochr yn ochr â phobl ifanc.
