Lowri O’Donovan

Cydymaith Ymchwil, Addysg

Mae Lowri yn Gymrawd Ymchwil yn Sefydliad Cymru ar gyfer Ymchwil a Data Cymdeithasol ac Economaidd (WISERD) ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ei gwaith yn cyfrannu at thema ymchwil Addysg YDG Cymru. Gan ddefnyddio data gweinyddol addysg ac iechyd, mae gwaith Lowri yn archwilio adnabod a darparu Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), a’r ffactorau sy’n dylanwadu ar a yw plant yn derbyn y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt yn yr ysgol. Gyda chefndir mewn seicoleg, mae ganddi ddiddordeb arbennig ym mhrofiadau ysgol plant â chyflyrau niwroddatblygiadol ac iechyd meddwl. Mae ganddi brofiad o gynnwys a chysylltu’r cyhoedd a phroffesiynol (PPIE) mewn ymchwil, ar ôl gweithio gyda chyfranwyr cyhoeddus, y trydydd sector a llunwyr polisi mewn rolau blaenorol.