Kelly Regan

Cynorthwy-ydd Gweinyddol

Mae Kelly yn Gynorthwy-ydd Gweinyddol ag YDG Cymru sydd wedi’i lleoli ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae’n ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau i gefnogi’r tîm o ymchwilwyr academaidd, gan gynnwys gweinyddu Labordy Diogel Caerdydd, trefnu digwyddiadau a chymorth gweinyddol cyffredinol. Mae ganddi BA mewn Newyddiaduriaeth, Cyfryngau a Chymdeithaseg o Brifysgol Caerdydd, gan ganolbwyntio ar feysydd penodol o ddiddordeb mewn Anghydraddoldeb Cymdeithasol, Gwyddor Wleidyddol ac Effeithiau’r Cyfryngau.