Mae George yn ystadegydd sy’n rhan o dîm Casglu Data Llywodraeth Cymru. Ei brif faes gwaith yw arwain prosiect sy’n ceisio archwilio sut gall Cymru symud o gasglu data digartrefedd ar lefel gyfanredol i’w gasglu ar lefel unigol. Mae tai yn ffocws allweddol ar gyfer YDG Cymru a nod y gwaith hwn yw sefydlu casgliad sy’n cynnig y gallu i fanteisio ar ddata o ansawdd uchel i’w gysylltu, a fyddai’n galluogi mewnwelediadau newydd i ddigartrefedd a’i gysylltu â deilliannau iechyd ac addysg. Cyn hyn, bu’n gweithio mewn cymysgedd o rolau dadansoddol a pholisi ar draws sawl un o adrannau Llywodraeth y DU.
