Mae Faye yn arwain uned newydd o fewn Llywodraeth Cymru, a grëwyd yn 2022. Mae’n cynnwys Uned Ymchwil Data Gweinyddol – Cymru (YDG Cymru) bresennol ac Uned Prosiectau Mawr a Datblygu Prosiectau newydd Ymchwil Data Gweinyddol. Mae Faye yn arwain trafodaethau caffael data ar lefel y DU ac yn gyfrifol am gyfeiriad strategol cysylltu data ar ran Llywodraeth Cymru. Mae hefyd yn rhan o’r uwch dîm arweinyddiaeth ar gyfer ystadegwyr ac ymchwilwyr cymdeithasol yn Llywodraeth Cymru. Mae gan Faye bron i 20 mlynedd o brofiad yn gweithio mewn swyddi dadansoddol ar draws ystod o feysydd polisi ac mae wedi gweithio i asiantaeth ymchwil breifat, arolygiaeth, elusen a’r cyfryngau.

