Rich Fry

Cyd-arweinydd Academaidd, Newid yn yr Hinsawdd, Cyfiawnder Cymdeithasol, Iechyd a Llesiant

Dr Rich Fry yw’r Cyd-arweinwydd Academaidd ar gyfer y meysydd ymchwil thematig Newid yn yr Hinsawdd, Cyfiawnder Cymdeithasol ac Iechyd a Llesiant. Mae’n ddaearyddwr sydd ag MSc a PhD mewn Systemau Gwybodaeth Daearyddol a Gwyddoniaeth. Mae Rich yn arwain ar integreiddio data gofodol â data iechyd dienw ar gyfer HDR UK Cymru a Gogledd Iwerddon a’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Llesiant y Boblogaeth. Mae Rich yn arbenigo mewn modelu daearyddol o ffenomenau amgylcheddol-gymdeithasol ar lefel y boblogaeth a chysylltu data gofodol dienw ac mae wedi gweithio ar ystod o brosiectau, gan gynnwys archwilio effeithiau argaeledd alcohol a bwyd brys ar iechyd y boblogaeth, cerddadwyedd cymdogaethau a diabetes math 2, rôl seilwaith y ffyrdd ar anafiadau beicio ac effaith mannau glas a gwyrdd ar anhwylderau iechyd meddwl cyffredin.

Yn allanol, mae Rich yn cynrychioli Addysg Uwch ar fwrdd Cymdeithas Gwybodaeth Ddaearyddol (Cymru), yn eistedd ar Adnodd Dadansoddiadol Cronfa Sylfaen Tai Llywodraeth Cymru ac yn cynrychioli Banc Data SAIL ar Gydbwyllgor Adolygu Gwyddonol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Mae Rich yn gymrawd ymchwil cyswllt ym Mhrifysgol Monash, Awstralia a Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD).