Ian Thomas

Cyd-arweinydd Academaidd, Tai a Digartrefedd

Mae diddordebau ymchwil Ian ym meysydd digartrefedd, tai, rhywioldeb a thechnolegau digidol. Mae ei waith cyfredol gydag YDG yn canolbwyntio ar ddadansoddi setiau data cysylltiol yn ymwneud â digartrefedd, lle mae’n Gyd-arweinydd Academaidd â’r Athro Peter Mackie, yn gweithio fel rhan o’r maes ymchwil thematig Tai a Digartrefedd. Mae dadansoddiadau diweddar a gynhaliwyd gan Ian wedi canolbwyntio ar bobl a gafodd brofiad o ddigartrefedd yn ystod pandemig Covid-19, gan gynnwys cyfraddau haint y coronafeirws ac anghydraddoldeb o ran brechiadau.