David Ford

Cyd-gyfarwyddwr

Mae David yn Athro Gwybodeg ym Mhrifysgol Abertawe ac yn Gyd-gyfarwyddwr YDG Cymru. Mae David yn arwain Banc Data SAIL ac mae hefyd yn gyfrifol am ddatblygu a defnyddio Platfform e-Ymchwil Diogel (SeRP) Abertawe. David yw prif ymchwiliwr a Chyfarwyddwr y Gofrestr Sglerosis Ymledol ac mae hefyd yn ddirprwy Gyfarwyddwr Data Ymchwil Iechyd y DU (HDR UK) ar gyfer Cymru a Gogledd Iwerddon. Mae David yn Gyd-ymchwiliwr ar nifer o grantiau ymchwil, gan gynnwys Doeth am Iechyd Cymru, Challenging Human Environments and Research Impact for a Sustainable and Healthy Digital Economy (CHERISH-DE) a’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl (NCMH). Mae David yn aelod gweithredol o sawl pwyllgor, gan gynnwys Pwyllgor Arweinyddiaeth ADR UK a chyrff cenedlaethol yn ymwneud â gwybodeg iechyd ac ymchwil yn gysylltiedig ag iechyd.