Ann John

Arweinydd Academaidd, Iechyd Meddwl

Mae Ann John, sy’n gyn feddyg teulu sydd wedi’i hyfforddi mewn iechyd cyhoeddus, yn Athro Iechyd Cyhoeddus a Seiciatreg yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe ac yn Gyd-gyfarwyddwr DATAMIND, sef Hwb Data Iechyd Meddwl HDRUK. Mae’n epidemiolegydd clinigol ac mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar iechyd meddwl, yn enwedig ymhlith pobl ifanc, ac atal hunanladdiad a hunan-niweidio.

Mae Ann yn arwain y maes ymchwil Iechyd Meddwl yn YDG Cymru. Mae’n cadeirio’r Grŵp Cynghori Cenedlaethol i Lywodraeth Cymru ar atal hunanladdiad a hunan-niweidio a hi yw’r arweinydd cenedlaethol ar gyfer atal hunanladdiad i Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ystod y pandemig, roedd Ann yn aelod o SAGE a’i grŵp cyfwerth yng Nghymru, sef y Grŵp Cyngor Technegol (TAG). Roedd yn gyd-arweinydd yr Astudiaeth Hunanladdiad Byd-eang. Mae Ann yn gweithio ar draws sectorau â’r nod o drosi ymchwil data gweinyddol yn arfer wedi’i seilio ar dystiolaeth a pholisi i atal hunan-niweidio, hunanladdiad ac anhwylderau iechyd meddwl pobl ifanc. Mae’n Ymddiriedolwr i’r Samariaid.