Matthew Curds

Pennaeth Prosiectau Mawr a Datblygu Prosiectau

Matthew yw pennaeth yr Uned Prosiectau Mawr a Datblygu Prosiectau sydd newydd ei sefydlu, sy’n rhan o dîm Caffael a Chysylltu Data ar gyfer Ymchwil Llywodraeth Cymru, dan arweiniad Faye Gracey. Mae Matthew yn goruchwylio dau brosiect strategol cyfredol; Prosiect Cysylltu Data y Cynllun Preswylio Sefydlog i Ddinasyddion yr UE (EUSS) a phrosiect Data Gweinyddol | Casgliad Ymchwil Amaethyddol (AD|ARC), ynghyd â’r ffrwd waith Pandemig | Ymchwil Data Gweinyddol (PAND|AR). Mae Matthew hefyd yn arwain y gwaith o ddatblygu prosiectau strategol pellach o fewn YDG Cymru (Llywodraeth Cymru). Bu Matthew yn ystadegydd i’r llywodraeth am dros saith mlynedd, yn gweithio ar draws adrannau Llywodraeth y DU, cyrff cyhoeddus yng Nghymru a Llywodraeth Cymru.