Pobl ifanc yw mwyafrif helaeth y trigolion sy’n byw mewn tai amlfeddiannaeth (HMOs) yng Nghymru, yn ôl dadansoddiad newydd o ddata Cyfrifiad 2021.
Nododd yr astudiaeth, a gynhyrchwyd gan ymchwilydd Iechyd a Gofal YDG Cymru, Rhodri Johnson, 6,914 o anheddau HMO* yng Nghymru yn cynnwys 7,117 o aelwydydd.** Dosbarthwyd tua 63% fel HMOs bach (3-4 tenant digyswllt), tra bod 37% yn HMOs mawr (5+ tenant digyswllt), gan gynnwys llety myfyrwyr pwrpasol.
Canfu’r ymchwil fod 81% o breswylwyr HMO rhwng 16 a 24 oed, tra bod 89% rhwng 16 a 30 oed.
Myfyrwyr oedd 55% o’r trigolion, ac yna pobl mewn gwaith yn 32%. Caerdydd oedd â’r boblogaeth fwyaf o dai amlfeddiannaeth, gydag 16,906 o drigolion, ac yna Abertawe gyda 6,106 a Gwynedd gyda 2,135. At ei gilydd, roedd 63% o breswylwyr HMO yn byw yn Ne-ddwyrain Cymru, o’i gymharu â 21% yn Ne-orllewin Cymru.
Tynnodd yr astudiaeth sylw hefyd at nodweddion amrywiol pobl sy’n byw mewn HMOs.
Roedd gwrywod yn cyfrif am 53.7% o’r trigolion a benywod 46.3%, tra bod 82.5% o’r trigolion wedi nodi eu bod yn Wyn, 8.2% fel Asiaidd, 3.3% fel grwpiau ethnig Cymysg neu Luosog a 3.2% fel Du. Roedd y rhan fwyaf o’r trigolion yn sengl, tra bod 90% yn nodi eu bod mewn iechyd da neu dda iawn.
Cynhaliwyd y dadansoddiad gan ddefnyddio data Cyfrifiad 2021 wedi’i gysylltu â chofnodion gweinyddol ym Manc Data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL). Datblygodd ymchwilwyr ddull seiliedig ar reolau i nodi a dosbarthu HMOs cyn archwilio nodweddion demograffig, tai, economaidd ac iechyd preswylwyr.
Defnyddiwyd y canfyddiadau i gefnogi asesiadau effaith cydraddoldeb a chymdeithasol-economaidd Llywodraeth Cymru ar gyfer deddfwriaeth Diogelwch Adeiladau (Cymru) arfaethedig, gan ddarparu tystiolaeth am y poblogaethau y gallai diwygiadau diogelwch adeiladau effeithio arnynt.
*Mae dosbarthiad Cyfrifiad 2021 yn diffinio HMO fel annedd lle mae tenantiaid digyswllt yn rhentu eu llety gan landlord preifat, gydag o leiaf dri unigolyn digyswllt yn ffurfio mwy nag un aelwyd ac yn rhannu cyfleusterau toiled, ystafell ymolchi neu gegin gyda thenantiaid eraill.
**Diffinnir aelwyd fel un person sy’n byw ar ei ben ei hun, neu grŵp o bobl (heb fod o reidrwydd yn perthyn) sy’n byw yn yr un cyfeiriad ac sy’n rhannu cyfleusterau coginio ac ystafell fyw, ystafell eistedd neu ardal fwyta.
