Mae Cip ar Ddata newydd YDG Cymru wedi edrych ar y cyfraddau gwahanol o achosion o drais yn erbyn grwpiau o bobl yng Nghymru.

Mesurodd y gwaith a wnaed gan dîm Cyfiawnder Cymdeithasol YDG Cymru achosion o drais a gofnodwyd ar draws grwpiau demograffig-gymdeithasol yng Nghymru gan ddefnyddio data gweinyddol ac iechyd a gesglir yn rheolaidd. Roedd hyn yn cynnwys cofnodion marwolaeth lle ymddangosodd ymosodiad fel prif achos neu achos cyfrannol, cofnodion trais meddyg teulu, mynychu Adran Damweiniau ac Achosion Brys — neu dderbyniadau i’r ysbyty — am resymau sy’n gysylltiedig â thrais (gan gynnwys ymosod/cam-drin).

Dangosodd canlyniadau’r astudiaeth fod y gyfradd trais wedi aros yn sefydlog rhwng 4.54 a 5.00 fesul 1,000 o bobl yng Nghymru tan 2019. Yn 2020, bu gostyngiad i 3.88 fesul 1,000, sy’n debygol o adlewyrchu llai o ddefnydd o ofal iechyd yn ystod pandemig Covid-19, cyn cynyddu eto i 4.55 yn 2022.

Gan ddefnyddio nodweddion personol a gwarchodedig, dangosodd cipolwg yn 2022 gyfraddau trais uwch ar gyfer y grwpiau canlynol:

– Menywod (yn uwch na dynion)
– Grwpiau oedran iau ac ardaloedd mwy difreintiedig
– Pobl ag anableddau deallusol, datblygiadol neu gorfforol (mwy na’r rhai ag anableddau synhwyraidd neu luosog)
– Ceiswyr lloches a ffoaduriaid
– Unigolion LHDTC+
– Pobl o grwpiau ethnig Du a grwpiau ethnig Cymysg/lluosog
– Pobl heb grefydd neu grefydd ‘Arall’
– Pobl sydd erioed wedi priodi, sydd wedi gwahanu, neu sydd mewn partneriaethau sifil.

Defnyddiodd y dadansoddiad hwn ddata cysylltiedig dienw ar lefel unigolion ac aelwydydd, ar draws y boblogaeth, a gedwir o fewn Banc Data Cysylltiad Gwybodaeth Ddienw Diogel (SAIL) ym Mhrifysgol Abertawe.

Roedd yr astudiaeth yn cynnwys 3,372,174 o unigolion dros 10 mlynedd, sy’n cyfateb i 25.7 miliwn o flynyddoedd-person o ddilyniant. At ei gilydd, rhyngweithiodd 95,716 o unigolion â gwasanaethau iechyd neu a fu farw oherwydd trais, sy’n cyfateb i 156,085 o gofnodion trais domestig.

Meddai’r prif awdur, Jane Lyons, “Gall cysylltu setiau data demograffig a gofal iechyd cenedlaethol helpu i fesur y nifer o unigolion sy’n rhyngweithio â gwasanaethau iechyd neu’n marw oherwydd trais. Mae hefyd yn caniatáu i ni ddeall yn well nodweddion y rhai yr effeithir arnynt yn anghymesur gan drais, gan gefnogi ymyrraeth fwy targedig.”

Darllenwch y Cip ar Ddata llawn.