Mae Mewnwelediad Data newydd YDG Cymru yn cyflwyno data ar strwythur aelwydydd fferm yng Nghymru ac yn eu cymharu ag aelwydydd gwledig eraill nad ydynt yn ffermio.

Cyflawnwyd y gwaith gan y AD|ARC (Data Gweinyddol | Casgliad Ymchwil Amaethyddol), prosiect pedair gwlad a ariennir gan YDG y DU.

Cysylltodd tîm AD|ARC wybodaeth na ellid ei adnabod am unigolion a oedd yn derbyn taliadau cymhorthdal fferm â gwybodaeth economaidd-gymdeithasol am eu haelwydydd a chymharodd nodweddion â nodweddion grŵp rheoli o aelwydydd gwledig nad oeddent yn ffermio.

Mae canfyddiadau’r ymchwil yn awgrymu bod aelwydydd fferm, ar gyfartaledd, o’u cymharu ag aelwydydd gwledig nad ydynt yn ffermio:

  • ychydig llai na 25% yn fwy
  • yn llai tebygol o gynnwys un preswylydd…
  • …ond pan oeddent yn cynnwys un preswylydd, roeddent yn fwy tebygol o gynnwys un gwryw
  • yn fwy aml yn aml-genhedlaeth
  • yn fwy aml yn byw fel cwpwl priod neu mewn partneriaeth sifil na chyd-fyw.

Wrth siarad am eu canfyddiadau, dywedodd y tîm ymchwil: “Gall gwell dealltwriaeth o strwythurau a nodweddion aelwydydd helpu i hysbysu’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau pan fo aelwydydd fferm o dan anfantais o gymharu â grwpiau eraill yn y gymdeithas ac mae ymyriadau’n cael eu hystyried.”

Nod y prosiect AD|ARC yw integreiddio’r dimensiwn dynol â data ar weithgareddau ffermio i ddeall yn well nodweddion demograffig, iechyd, addysg ac economaidd aelwydydd fferm sy’n gysylltiedig â gwahanol fathau a meintiau o fusnesau fferm. Nod AD|ARC yw darparu’r mewnwelediadau sydd eu hangen ar y rhai sy’n gwneud penderfyniadau i wella polisïau’r dyfodol a gwella lles ffermwyr a’u haelwydydd.

Darllenwch y Mewnwelediad Data llawn