Maeymchwil newydd gan Gymrawd ADR UK, Dr Claire Hargreaves, wedi rhoi cipolwg ar iechyd ffermwyr yng Nghymru.
Mae’r ymchwil, a gefnogwyd gan aelodau tîm YDG Cymru Rhodri Johnson, Sian Morrison-Rees a Paul Caskie, wedi cysylltu cofnodion amaethyddol â data gofal iechyd a gedwir ym Manc Data SAIL i ddarparu un o’r trosolygon cyntaf sy’n edrych yn benodol ar iechyd ffermwyr yng Nghymru.
Defnyddiodd dadansoddiad Dr Hargreaves Set Ddata Flaenllaw ADR UK, Data Gweinyddol | Casgliad Ymchwil Amaethyddol (AD|ARC) wedi’i gysylltu â data iechyd, yn cwmpasu 18,450 o ffermwyr a chanfu mai cyflyrau cyhyrysgerbydol, anadlol a chroen oedd y problemau iechyd a gafodd ddiagnosis amlaf mewn gofal sylfaenol. Tra bod diagnosisau o gyflyrau iechyd meddwl a chylchrediad y gwaed wedi cynyddu’n gyson rhwng 2011 a 2024.
Cynyddodd y defnydd o ofal iechyd hefyd dros gyfnod yr astudiath, gyda mwy o apwyntiadau cleifion allanol, ymweliadau ag adrannau brys a derbyniadau i’r ysbyty, yn enwedig ymhlith ffermwyr hŷn. Canfu ymchwilwyr mai clefyd cylchrediad y gwaed oedd prif achos marwolaeth ymhlith ffermwyr Cymru, yn wahanol i boblogaeth ehangach Cymru lle mae canser wedi dod yn brif achos.
Mae’r canfyddiadau’n amlygu gwerth cysylltu setiau data gweinyddol i greu darlun cliriach o’r heriau iechyd sy’n wynebu cymunedau ffermio y tu hwnt i arolygon a hunan-adroddir. Dywedodd Dr Hargreaves y gallai’r dystiolaeth helpu llunwyr polisi a darparwyr gofal iechyd i dargedu cymorth yn well ar gyfer cymunedau ffermio, lle gall oriau gwaith hir, ynysu gwledig a rhwystrau i gael mynediad at ofal iechyd gyfrannu at ganlyniadau iechyd gwaeth ac oedi wrth gael triniaeth.
