Mae ymchwilwyr YDG Cymru wedi datblygu ffordd newydd o fesur iechyd y genedl, gan symud y ffocws o’r hyn sy’n ein niweidio i’r hyn sy’n ein cadw’n iach.

Yn hytrach nag olrhain arwyddion rhybuddio o afiechyd, mae tîm Cyfiawnder Cymdeithasol YDG Cymru wedi datblygu dull newydd, sy’n canolbwyntio ar un dangosydd pwerus, syml: aros yn iach ac osgoi salwch difrifol.

Mae’r Dangosydd Iechyd Dymunol (DHI), a ddatblygwyd gan dîm Cyfiawnder Cymdeithasol YDG Cymru, yn defnyddio cofnodion ysbytai, meddygon teulu, adrannau achosion brys a marwolaethau i greu sgôr blynyddol ar gyfer pob unigolyn. Nod yr offeryn DHI yw darparu mesur sy’n gadarn yn ystadegol ac yn hawdd ei ddeall gan lunwyr polisi a’r cyhoedd.

Mae’r DHI yn cyfuno chwe maen prawf: byw’r flwyddyn gyfan, osgoi derbyniadau i’r ysbyty a mynychu adrannau brys, a pheidio â derbyn presgripsiynau ar gyfer heintiau, lleddfu poen na chyflyrau iechyd meddwl. Yn 2022, cafodd 2.68 miliwn o bobl eu cynnwys yn y dadansoddiad, gyda 43.1% yn bodloni pob un o’r chwe meincnod. Roedd y gyfran yn uwch ymhlith dynion (49.2%) na menywod (37.1%), yn uchaf ymhlith plant 10 i 19 oed (58.5%), ac yn isaf ymhlith y rhai 90 oed a throsodd (12.8%). Dangosodd gwahaniaethau economaidd-gymdeithasol fod 47.2% o bobl yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig yn bodloni’r dangosydd o’i gymharu â 39.4% yn y cymunedau mwyaf difreintiedig.

Mae tueddiadau o 2015 i 2022 yn dangos cynnydd graddol yn y gyfran sy’n bodloni’r DHI cyn cynnydd sydyn yn ystod 2020 a 2021—sy’n debygol o adlewyrchu’r defnydd o ofal iechyd yn ystod cyfyngiadau symud COVID-19—ac yna gostyngiad yn 2022. Dywed ymchwilwyr y gallai symlrwydd y dangosydd a’i allu i gael ei ddadansoddi yn ôl oedran, rhyw ac amddifadedd ei wneud yn ychwanegiad gwerthfawr at adrodd iechyd cenedlaethol, gyda diddordeb eisoes wedi’i fynegi mewn archwilio ei ddefnydd ehangach ledled y DU.

Darllenwch y Cip ar Ddata llawn