Mewn Cip ar Ddatanewydd, arweiniodd yr Athro Ann John o YDG Cymru dîm ymchwil a fu’n archwilio’r cysylltiad rhwng absenoldeb o’r ysgol a gwaharddiad ac anhwylderau niwroddatblygiadol cofnodedig, anhwylderau iechyd meddwl, neu hunan-niweidio mewn carfan fawr o blant a phobl ifanc yng Nghymru.
Mae presenoldeb gwael yn yr ysgol yn gysylltiedig ag ystod o ganlyniadau negyddol yn ystod oes, gan gynnwys cyrhaeddiad addysgol gwael, diweithdra, a thlodi. Bwriedir defnyddio gwaharddiadau o ysgolion yng Nghymru a Lloegr mewn achosion difrifol o dorri polisïau ymddygiad megis trais, cam-drin rhywiol, cyflenwi cyffuriau anghyfreithlon neu ddefnyddio arfau. Ar hyn o bryd mae cyfraddau gwahardd yn Lloegr yn codi, gan dynnu sylw at bwysigrwydd polisïau yn yr ysgol sy’n ceisio gwella ymddygiad a chefnogi athrawon ac sydd ar waith yn y DU, yr Unol Daleithiau a mannau eraill.
Bu’r tîm yn cysylltu data addysgol wedi’i ddad-adnabod a’i gasglu’n rheolaidd â setiau data iechyd demograffig, cynradd ac uwchradd, gan greu carfan ar draws y boblogaeth o 437,412 o ddisgyblion rhwng 7a 16 oed rhwng 2009 a 2013 yng Nghymru. Nododd y tîm ystod eang o anhwylderau iechyd meddwl wedi’u cofnodi a chael diagnosis clinigol hyd at 24 oed, gan gynnwys cyflyrau heb eu hastudio cymaint yn y cyd-destun hwn fel anhwylder deubegynol a sgitsoffrenia, sy’n cael diagnosis amlach ar ôl oedran gadael ysgol.
Canfuwyd bod plant a phobl ifanc sy’n cael diagnosis o anhwylder niwroddatblygiadol neu anhwylder meddyliol, neu sydd â chofnod o hunan-niweidio, cyn 24 oed yn llawer mwy tebygol o golli’r ysgol na’u cyfoedion, hyd yn oed ar ôl addasu ar gyfer oedran, rhyw, ac amddifadedd.
Mae darpariaeth iechyd meddwl yn yr ysgol ac integreiddio â gwasanaethau iechyd meddwl wedi cael eu hamlygu fel blaenoriaeth strategol fawr yn y DU. Gallai’r dull hwn fod o fudd i bobl ifanc fel yr amlygwyd gan un o ganfyddiadau’r astudiaeth bod cael statws Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) yn lleihau’r siawns o fod yn absennol neu wedi’u gwahardd, hyd yn oed os nad yw’n cael gwared ar y risg yn llwyr. Felly, gallai data presenoldeb a gwahardd sydd eisoes yn cael ei gasglu gan ysgolion ddarparu gwybodaeth ddefnyddiol am ble i ganolbwyntio adnoddau prin.
Darllenwch y Cip ar Ddata llawn Y cysylltiad rhwng absenoldeb o’r ysgol a gwaharddiad ac anhwylderau niwroddatblygiadol cofnodedig, anhwylderau meddyliol neu hunan-niweidio: Astudiaeth e-garfan genedlaethol o blant a phobl ifanc Cymru
