Dechrau’n Deg yw rhaglen flaenllaw Llywodraeth Cymru ar gyfer y blynyddoedd cynnar i deuluoedd â phlant dan bedair oed sy’n byw mewn rhai o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Trwy edrych ar ddata ymyriadau Dechrau’n Deg ar lefel unigol gan awdurdodau lleol ledled Cymru a’i gysylltu – ynghyd â data ar dderbyniadau ysbytai, presenoldeb mewn unedau damweiniau ac achosion brys, a data ar absenoldebau addysg – nod y prosiect yw rhoi darlun o ddeilliannau teuluoedd y mae eu plant yn gymwys ar gyfer y rhaglen Dechrau’n Deg, o’u cymharu â’r rhai sy’n byw y tu allan i ardaloedd sy’n gymwys ar gyfer Dechrau’n Deg.

Dan arweiniad ein hymchwilwyr sy’n gweithio yn y byd academaidd a Llywodraeth Cymru, mae’r prosiect hwn wedi dangos cyfoeth y data y gellir ei gasglu wrth gysylltu data o feysydd polisi a sefydliadau a fyddai wedi aros ar wahân fel arall. Mae’r prosiect wedi creu grŵp rhanddeiliaid ymgysylltiedig, â chynrychiolwyr o’r chwe awdurdod lleol a gymerodd ran yn y peilot. Mae’r grŵp wedi chwarae rhan allweddol o ran pennu cyfeiriad y prosiect, gan gynnwys dadansoddiad yn seiliedig ar eu profiadau o gyflwyno’r rhaglen.

Lluniwyd canfyddiadau ymchwil cychwynnol ar gyfer Dinas a Sir Abertawe trwy ddadansoddi data o’r rhaglen Dechrau’n Deg, wedi’i gysylltu â data arall ar iechyd ac addysg. Wrth gymharu plant sy’n byw yn ardal Abertawe a oedd wedi cael gwasanaethau iechyd Dechrau’n Deg a phlant nad oeddent wedi cael unrhyw wasanaethau iechyd Dechrau’n Deg, canfu’r astudiaeth y canlynol: arwydd cyfyngedig, rhagarweiniol o effaith gadarnhaol bosibl Dechrau’n Deg ar bwysau geni isel a babanod a aned i famau yn eu harddegau; dim effaith ar bresenoldebau cyffredinol mewn unedau damweiniau ac achosion brys; ‘effaith amddiffynnol’ bosibl Dechrau’n Deg ar dderbyniadau i ysbytai; effaith gadarnhaol bosibl Dechrau’n Deg ar absenoldebau mewn ysgolion cynradd; ac effaith gadarnhaol bosibl Dechrau’n Deg ar absenoldebau anawdurdodedig mewn ysgolion cynradd.

Disgwylir y bydd canfyddiadau’r prosiect hwn yn helpu’r rhai sy’n llunio polisïau i werthuso effaith y rhaglen Dechrau’n Deg a all, yn ei dro, lywio polisi a chyfeiriad yn y dyfodol. Bydd y canfyddiadau’n berthnasol i ymchwil arall hefyd i werthuso mentrau ac ymyriadau cynnar ar sail ardaloedd i fynd i’r afael â thlodi

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am ganfyddiadau cychwynnol yr ymchwil yma.