Mae dadansoddiad ystadegol newydd gan YDG Cymru yn archwilio sut mae pobl yn adrodd ar eu galluoedd yn y Gymraeg ar draws gwahanol ffynonellau data, gan roi cipolwg gwerthfawr ar gynnydd strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru.
Mae Cyfrifiad 2021 yn chwarae rhan bwysig wrth fonitro amcanion y polisi, tra bod cymariaethau ag arolygon cartrefi yn helpu i roi dealltwriaeth ehangach o dueddiadau yn y defnydd a’r wybodaeth am y Gymraeg ledled Cymru.
Mae’r dadansoddiad, a gynhaliwyd gan aelod o YDG Cymru yn Llywodraeth Cymru, yn cymharu ymatebion o Gyfrifiad 2021 â’r rhai a gasglwyd drwy Arolwg Cenedlaethol Cymru yn 2020-21 a 2021-22. Gan ddefnyddio data cysylltiedig ar lefel unigol o Fanc Data SAIL, archwiliodd ymchwilwyr pa mor gyson oedd pobl yn nodi eu gallu i siarad, deall, darllen ac ysgrifennu Cymraeg ar draws y ddwy ffynhonnell.
Mae’r dadansoddiad hefyd yn ymchwilio i weld a yw cytundeb rhwng y galluoedd yn y Gymraeg a adroddir yn amrywio yn ôl nodweddion demograffig ac aelwydydd. Gallai hyn helpu i roi darlun cliriach o sut mae gwahanol grwpiau’n adrodd ar eu sgiliau Cymraeg ac amlygu ystyriaethau pwysig wrth ddehongli ystadegau a ddefnyddir i asesu cynnydd tuag at dargedau polisi iaith cenedlaethol.
Mae’r ymchwil yn rhan o gynllun gwaith ar y cyd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) a Llywodraeth Cymru i wella cydlyniant ystadegau’r Gymraeg. Mae’n adeiladu ar ymchwil flaenorol sy’n cymharu ymatebion i’r Gymraeg yn yr Arolwg o’r Llafurlu a’r Cyfrifiad, gan gyfrannu at ymdrech ehangach i wella dealltwriaeth o’r gwahanol ffyrdd y mae gallu yn y Gymraeg yn cael ei fesur a’i adrodd.
