Yn y blog hwn, mae Dr Ian Thomas a’r Athro Peter Mackie, arweinwyr ymchwil o dîm tai a digartrefedd YDG Cymru, yn myfyrio ar rywfaint o’u gwaith gydag elusennau digartrefedd ieuenctid ledled Prydain Fawr i feithrin newid sy’n cael ei yrru gan ddata. Dros gyfres o ymrwymiadau cydweithredol, mae’r tîm wedi bod yn helpu i wella’r defnydd o ddata a gasglwyd gan sawl elusen fel rhan o ymyriad atal digartrefedd, a elwir yn ‘Upstream’.

Mae atal digartrefedd yn golygu ymyriad i gymryd camau rhagweithiol i gefnogi’r rhai sydd mewn perygl. Yn achos digartrefedd pobl ifanc, Upstream yw’r enw a roddir ar ymyriad yn yr ysgol a gynlluniwyd i nodi a chynorthwyo disgyblion agored i niwed. Fe’i ddatblygwyd yn wreiddiol yn Awstralia, ac ers hynny mae wedi’i fabwysiadu yng Nghymru (gan Llamau), Lloegr (gan Centrepoint), a’r Alban (gan Rock Trust). Mae Upstream yn defnyddio arolwg disgyblion i gasglu mewnwelediadau am fywyd y cartref a’r ysgol, gan helpu i nodi pobl ifanc a allai fod angen cymorth.  Fodd bynnag, gall data’r arolwg fod yn ‘anniben’, gan ei gwneud yn anoddach i elusennau ddadansoddi a defnyddio ar gyfer ymchwil. Er mwyn mynd i’r afael â hyn, mae YDG Cymru wedi bod yn gweithio i lanhau a mireinio data arolwg Upstream i hwyluso gwell defnydd.

Yn ystod haf 2024, ymunodd Lauren Hill, myfyriwr cyfrifiadureg trydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Bryste, â thîm YDG Cymru fel rhan o raglen Interniaeth Gwyddor Data Banc Data SAIL. Mae’r interniaeth gyflogedig hon yn helpu myfyrwyr i gael profiad ymarferol mewn gwyddor data. Gydag arweiniad gan dîm YDG Cymru, bu Lauren yn gweithio gyda data arolwg Upstream dienw, gan ysgrifennu cod i’w baratoi ar gyfer ymchwil a dadansoddi. Cynhaliodd Lauren ddadansoddiad hefyd i helpu Llamau i ddeall yn well y disgyblion sy’n cael eu sgrinio gan Upstream. Amlygodd yr Adroddiad a oedd yn ymgorffori canfyddiadau Lauren fewnwelediadau allweddol ar natur a chwmpas y risg o ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc yng Nghymru—gan gynnwys bod 3% o ddisgyblion wedi profi digartrefedd yn y flwyddyn cyn cael eu sgrinio.

Ochr yn ochr â helpu Llamau i lanhau a threfnu eu data, mae tîm YDG Cymru hefyd wedi cynnal ymchwil i gryfhau’r dystiolaeth y tu ôl i ymyriad Upstream. Yn eu Cip ar Ddata diweddaraf, dadansoddodd y tîm sut mae ymddieithrio o’r ysgol (fel triwantiaeth ac ataliad) yn gorgyffwrdd â phrofiadau o ddigartrefedd ieuenctid. Canfu’r astudiaeth fod holi’n uniongyrchol am ddigartrefedd yn ffordd llawer mwy effeithiol o nodi disgyblion a allai elwa ar gymorth, o gymharu â defnyddio ymddieithrio o’r ysgol ac ymddygiad gweladwy arall i ganfod problemau posibl gartref—mae’r dull olaf hwn yn cael ei argymell gan Lywodraeth Cymru.

Wrth i Upstream ehangu ledled Prydain Fawr, mae gwella ei system ddata wedi dod yn hanfodol ar gyfer sefydlu darparwyr newydd a sicrhau cysondeb wrth ddarparu gwasanaethau. Mae tîm YDG Cymru yn rhan o weithgor, ochr yn ochr â Llamau, Centrepoint, a Rock Trust, i ddylunio system newydd. Gan dynnu ar eu profiad gyda systemau data digartrefedd a dadansoddi’r offeryn sgrinio Upstream, mae’r tîm yn helpu i lywio ei ddatblygiad. Nodwedd allweddol sy’n cael ei hystyried yw cysylltu arolygon sgrinio â chofnodion eraill, fel data addysg, i gefnogi ymchwil a gwerthuso. Gallai hyn helpu i olrhain canlyniadau, megis a yw disgyblion sy’n cael cymorth Upstream yn mynd ymlaen i addysg bellach neu uwch.