Mae Tara Hughes yn Swyddog Ymchwil o fewn tîm Gofal Cymdeithasol YDG Cymru. Yn y blog hwn, mae Tara yn rhannu datblygiad cyffrous sy’n cefnogi’r gymuned ymchwil gofal cymdeithasol.

Mae tîm Gofal Cymdeithasol YDG Cymru yn gydweithrediad rhwng YDG Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae’r rhaglen waith yn cael ei harwain gan Gofal Cymdeithasol Cymru, ac fel rhan o’r rhaglen hon mae Grŵp Ymchwil Data Cysylltiedig â Gofal Cymdeithasol i Oedolion, y cyfeirir ato fel (“y Grŵp”) wedi’i sefydlu ac yn cael ei reoli gan y tîm.

Ysbrydolwyd y Grŵp gan grŵp tebyg sy’n cael ei redeg gan Dr Martin Elliott a’r Athro Lucy Griffiths, sy’n cefnogi ymchwilwyr yng Nghymru gan ddefnyddio data cysylltiedig o fewn ymchwil gofal cymdeithasol plant. Nid oedd gan y gymuned ymchwil gofal cymdeithasol oedolion yng Nghymru unrhyw beth tebyg a theimlai’r tîm y gallent efelychu rhywfaint o’r arfer da hwn gan weithio’n agos â chanolfannau ymchwil eraill megis Canolfan GOFAL Prifysgol Caerdydd.

Beth yw’r Grŵp Ymchwil Data Cysylltiedig â Gofal Cymdeithasol i Oedolion?

Gwahoddir aelodaeth o’r Grŵp o bob rhan o’r gymuned ymchwil gofal cymdeithasol oedolion, gan gynnwys ymchwilwyr sydd wedi’u lleoli yn y byd academaidd, llywodraeth leol a chenedlaethol neu sefydliadau trydydd sector sy’n cynnal ymchwil yng Nghymru neu sy’n ymwneud ag ymchwil ar Gymru.

Bydd y Grŵp yn ysgogi arloesi ac archwilio heriau a chyfleoedd mewn ymchwil data gofal cymdeithasol oedolion cysylltiedig ar draws cymuned amlddisgyblaethol. Bydd yr heriau a’r cyfleoedd a nodwyd ac a archwiliwyd drwy’r Grŵp yn cael eu bwydo’n ôl i lywio gweithgareddau cyfochrog a ddarperir gan y tîm. Mae’r rhain ar hyn o bryd yn cynnwys ymarferion blaenoriaethu ymchwil a chaffael data gofal cymdeithasol i’w cyrchu a’u defnyddio o fewn amgylchedd ymchwil ymddiriedol cenedlaethol Cymru (TRE), y Banc Data Cyswllt Gwybodaeth Ddienw Ddiogel (SAIL).

Bydd y Grŵp yn cynnal gweithgareddau rheolaidd megis cyfarfodydd, gweminarau a digwyddiadau. Er mwyn darparu lle ar gyfer rhwydweithio a chydweithio, rydym hefyd wedi creu grŵp ar-lein ar blatfform Cymuned Tystiolaeth Gofal Cymdeithasol Cymru. Bydd hyn yn datblygu cyfleoedd i ymchwilwyr yng Nghymru, ond hefyd ym mhob un o’r pedair cenedl, i gydweithredu a rhannu arferion da.

Cyfleoedd i fyfyrwyr PhD gofal cymdeithasol

Mae’r tîm Gofal Cymdeithasol hefyd yn cynnig lleoliad PhD wedi’i ariannu drwy Ofal Cymdeithasol Cymru. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru eisiau cefnogi ymchwilwyr gofal cymdeithasol y dyfodol a gwella ansawdd ymchwil trwy wneud yn siŵr ei fod yn hygyrch i bobl sy’n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol. Trwy amrywiaeth o adnoddau a phrosiectau ar draws y timau Data Ymchwil ac Arloesi o fewn Gofal Cymdeithasol Cymru, maent yn cefnogi’r defnydd o ymchwil ochr yn ochr â mathau eraill o dystiolaeth i gyfoethogi ymarfer, cynllunio a llunio polisi gofal cymdeithasol yn ogystal â helpu i wella ansawdd gofal a chymorth a ddarperir i bobl yng Nghymru.

Mae’n gyfnod cyffrous i ymchwilwyr ym maes gofal cymdeithasol oedolion, gyda llawer o gyfleoedd i gysylltu ag ymchwilwyr eraill a gweithio ochr yn ochr â chyrff proffesiynol fel Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae croeso i chi gysylltu â Tara Hughes (tara.hughes@socialcare.wales) i gael gwybod mwy am y Grŵp Ymchwil Data Cysylltiedig â Gofal Cymdeithasol i Oedolion.