Mae Datacise yn cyhoeddi bod Dr Stephanie Lee wedi ymddeol o’i rôl fel Cyd-gyfarwyddwr Hyfforddiant ac Adeiladu Capasiti YDG Cymru (Datacise).

Gwnaeth Stephanie gyfraniad sylweddol at ddylunio a chyflwyno rhaglen Datacise, gan ganolbwyntio ar gryfhau sgiliau, cefnogi hyfforddiant, ac ehangu mynediad at ymchwil data gweinyddol ledled y DU a’r tu hwnt.

Bydd Dr Ting Wang yn ymgymryd â rôl arweinydd Hyfforddiant ac Adeiladu Capasiti (Datacise) yn YDG Cymru, gan gyd-gyfarwyddo Datacise gyda Phennaeth Ymchwil ac Adeiladu Capasiti ADR UK, Emily Oliver, a Chyfarwyddwr SeRP ym Mhrifysgol Abertawe, yr Athro Simon Thompson.

Bydd Ting hefyd yn gweithio ochr yn ochr â Chyd-gyfarwyddwyr newydd YDG Cymru, yr Athro Lucy Griffiths a’r Athro Simon Thompson, a’r Cyd-gyfarwyddwr presennol Stephanie Howarth, i gefnogi rhaglen ymchwil YDG Cymru. Mae Ting yn dod ag arbenigedd sylweddol mewn gwyddor data a seilwaith ymchwil, ar ôl cyfrannu eisoes at hyrwyddo dulliau arloesol o fewn tirwedd YDG Cymru. Mae ei phenodiad yn sicrhau parhad ac yn rhoi cyfle i ehangu cyrhaeddiad ac effaith Datacise.

Darllenwch y datganiad i’r wasg llawn yn Datacise