Mae erthygl Newyddion y BBC a gyhoeddwyd yr wythnos hon yn dangos sut mae data a gasglwyd drwy arolygon sgrinio Llamau Upstream Cymru wedi helpu i adnabod pobl ifanc sydd mewn perygl o brofi digartrefedd a’u cysylltu â chymorth cynnar, gan newid bywydau ac atal argyfyngau cyn iddynt ddigwydd.
Mae cefnogi’r gwaith hwn wedi bod yn bartneriaeth hirhoedlog rhwng Llamau ac YDG Cymru. Mae Llamau yn elusen sy’n gweithio yng Nghymru ac sy’n cynorthwyo pobl ifanc, menywod a phlant sydd mewn perygl o fod yn ddigartref neu sy’n profi digartrefedd. Ers nifer o flynyddoedd, mae YDG Cymru, trwy ei rhaglen Tai a Digartrefedd, wedi gweithio’n agos gyda’r elusen i ddeall a dadansoddi data Upstream yn well, gan helpu i gryfhau prosesau casglu data a gwella’r sail dystiolaeth ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc.
Yn benodol, mae Dr Ian Thomas, Arweinydd Academaidd corff gwaith Tai a Digartrefedd YDG Cymru, wedi cynorthwyo Llamau i ddatblygu dulliau sy’n galluogi dadansoddiad mwy cadarn a mewnwelediadau dyfnach i’r ffactorau sy’n rhoi pobl ifanc mewn perygl o brofi digartrefedd.
“Ganwyd Upstream Cymru allan o awydd i roi terfyn ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc yng Nghymru. Ers hynny, mae wedi tyfu i fod yn fudiad ledled y DU i atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc ac mae bellach yn cael ei gyflawni ar draws y pedair gwlad. Mae stori Emily yn nodyn atgoffa pwerus o’r gwahaniaeth y gall cymorth ac ymyrraeth gynnar ei wneud ym mywydau pobl ifanc. Wrth i Upstream barhau i adeiladu momentwm, mae gennym gyfle i gynorthwyo rhagor o bobl ifanc i ffynnu a lleihau’r risg o ddigartrefedd i genedlaethau’r dyfodol.”
Mae’r cydweithrediad hwn wedi cyfrannu at esblygiad dulliau casglu a dadansoddi data Upstream Cymru, gan gynhyrchu tystiolaeth newydd ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc, datgysylltiad addysgol a grwpiau o bobl ifanc sy’n wynebu risg uwch. Mae’r gwaith wedi helpu i sicrhau nid yn unig y caiff data eu casglu’n effeithiol ond eu defnyddio i lywio camau gweithredu, gan gynorthwyo ymarferwyr a llunwyr polisi i ymyrryd yn gynharach a gwella canlyniadau i bobl ifanc agored i niwed ledled Cymru.
