Mae dadansoddwyr YDG Cymru o fewn Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adroddiad newydd sy’n archwilio dichonoldeb amcangyfrif nifer y plant nad ydynt mewn ysgol y wladwriaeth.

Mae’r adroddiad, sy’n defnyddio data gweinyddol cysylltiedig a gedwir o fewn cronfa ddata SAIL, wedi profi dichonoldeb amcangyfrif nifer y plant nad ydynt mewn addysg y wladwriaeth o fewn awdurdodau lleol yng Nghymru cyn newid rheoleiddiol posibl yng Nghymru.

Ar hyn o bryd mae Adran 7 Deddf Addysg 1996 yn gosod dyletswydd ar rieni i sicrhau bod plentyn o oedran ysgol gorfodol yn cael addysg amser llawn effeithlon sy’n addas i oedran a gallu’r plentyn ac i unrhyw anghenion dysgu ychwanegol sydd gan y plentyn, naill ai trwy bresenoldeb rheolaidd yn yr ysgol neu fel arall. Gydag Adran ychwanegol (436A), sy’n datgan bod yn rhaid i awdurdodau lleol wneud trefniadau i nodi plant nad ydynt yn cael addysg addas ac i roi sylw i ganllawiau a ddosberthir gan Weinidogion Cymru.

Er mwyn cynorthwyo awdurdodau lleol i gyflawni eu dyletswydd, mae Llywodraeth Cymru yn cynnig rheoliadau i’w gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol sefydlu cronfa ddata o blant sy’n colli addysg a chyhoeddi canllawiau statudol gan ddefnyddio’r gyfraith bresennol.  Rhagwelir y byddai’r gronfa ddata yn cael ei chynhyrchu trwy gysylltu data addysg a data cofrestru Meddygon Teulu i nodi’r plant hynny sydd ar goll o addysg y wladwriaeth.

Mae’r adroddiad a gynhaliwyd gan dîm YDG Cymru, yn ailadrodd y dull cysylltu data arfaethedig gan ddefnyddio cofnodion addysg a meddygon teulu heb eu nodi a gedwir ym Manc Data SAIL i brofi dichonoldeb a chywirdeb y dull arfaethedig.

Cynhyrchodd tîm yr adroddiad amcangyfrifon o blant oedran ysgol nad oeddent yng nghofnodion addysg y wladwriaeth ar 20 Ebrill 2021 a’u dadansoddi yn ôl oedran ac awdurdod lleol. Edrychodd y tîm ar dri chategori; y rhai a ganfuwyd mewn addysg, y rhai nad oeddent bellach wedi’u cofnodi mewn addysg yn Ebrill 2021 a’r rhai na ellid dod o hyd iddynt o gwbl.

Mae’r adroddiad yn ystyried pam na chafodd rhai plant a gofnodwyd yn y set ddata cofrestru meddygon teulu eu cofnodi yn y data addysg, a hefyd effeithiau presenoldeb mewn ysgolion annibynnol neu ysgolion yn Lloegr ar oedran a lledaeniad daearyddol plant sydd ar goll o’r data addysg.

Er mwyn asesu cywirdeb y cysylltiad a wnaed ymhellach, cymharodd tîm yr adroddiad eu hamcangyfrifon â dadansoddiad data cysylltiedig cyfochrog a gynhaliwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) gan ddefnyddio data addysg Cyfrifiad 2021.

Mae manylion llawn yr adroddiad i’w gweld yma.